Modiwl WXC-2241:
Perfformio Unawdol Blwyddyn 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Music, Drama and Performance
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Chris Collins
Amcanion cyffredinol
- Datblygu ymhellach a chryfhau'r sgiliau a gafwyd wrth wneud y modiwl Blwyddyn 1 Perfformio Unigol
- Datblygu a mireinio techneg offerynnol neu leisiol y myfyriwr
Cynnwys cwrs
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr adeiladu ac ehangu ar sgiliau a sefydlwyd eisioes yn ystod y modiwlau perfformio unigol ym Mlwyddyn 1. Gwneir hyn trwy hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol. Bydd y tiwtor yn cynghori ac yn cynorthwyo’r myfyriwr i lunio rhaglen arfaethedig o repertoire unawdol (technegol a deongliadol) sy’n cynnwys arddulliau amrywiol, i’w archwilio gan y myfyriwr, a fydd yn fuddiol i ddatblygiad technegol a cherddorol yr unigolyn.
Mae gweithdai wythnosol yn archwilio gwahanol agweddau ar dechneg perfformio (gan gynnwys ymarfer perfformio, pryderon cerddolegol, sgiliau cyflwyno a sgiliau trefnu). Yn ystod y gweithdai, bydd pob myfyriwr yn paratoi ac yn perfformio gwaith, gyda chyfeiliant lle bo hynny'n berthnasol. Darperir adborth llafar ym mhob gweithdy.
Nodwch os gwelwch yn dda: Er fod y modiwl hwn yn rhedeg yn swyddogol yn Semester 2, mae gwersi offerynnol/lleisiol a gweithdy'n rhedeg trwy'r holl flwyddyn.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Perfformiad sy'n gyfyngedig o ran cerddoroldeb a thechneg, ac yn rhoi sylw cyfyngedig i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
da
C- i B+: Perfformiad sy'n argyhoeddi, gan ddangos lefelau da o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd â rhoi sylw, ar y cyfan, i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
ardderchog
A- i A*: Perfformiad cymhellgar ac argyhoeddiadol, sy'n dangos lefelau uchel o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd â thystiolaeth o roi sylw gofalus i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu cyfuno a pherfformio rhaglen o repertoire cymsyg sy'n ymdrin ag amrywiaeth o arddulliau, tempi a mynegiad y perfformio.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu ymateb i gyfarwyddiadau deinamig a chyfleu'r rhain mewn perfformiad.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu cydweithio gyda'r cyfeilydd (neu drac cyfeiliant) lle bo'n briodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Perfformio Unawdol | 100 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Ymarfer preifat |
144 |
Practical classes and workshops | Gweithdai perfformio wythnosol (2 awr yr un) yn Semesterau 1 a 2. |
44 |
Tutorial | Gwersi unigol am gyfanswm o 12 awr. Mae’r union amlder a hyd y gwersi yn dibynnu ar gytundeb rhwng yr athro a’r myfyriwr, ond fel rheol cynhelir hwy rhwng Wythnos 2 a Wythnos 12 ym mhob semester. Lle bo’n angenrheidiol a phriodol, 1 awr o amser ymarfer gyda chyfeilydd piano proffesiynol. |
12 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2241.htmlRhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 2 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 2 (BA/ELM)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 2 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 2 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 2 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 2 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 2 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 2 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 2 (BA/MUSCW)
- WW36: BA Music and Film Studies year 2 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 2 (BA/MUSP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 2 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 2 (BMUS/MUS)