Newyddion: Awst 2012

Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg

Bydd Prynhawn Agored rhwng 2-5 Ddydd Sadwrn 8 Medi yn rhoi cyfle i’r cyhoedd canfod mwy am waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen. Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn trydydd dymor o gloddio ar y safle rhwng 26 Awst -16 Medi 2012

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012

Astudiaeth yn datgelu diffyg cefnogaeth ar gyfer 'clustnodi' cronfa cyffuriau canser

Mae'r cyhoedd yn gwrthwynebu’r gronfa cyffuriau canser, ond yn cefnogi’r system brisio newydd ar gyfer meddyginiaethau wedi eu brandio, yn ôl astudiaeth newydd.

Pan ofynnwyd a ddylai’r GIG dalu mwy am gyffuriau canser o’i gymharu â meddyginiaethau ar gyfer cyflwr yr un mor ddifrifol, dywedodd y mwyafrif o’r 4,118 o bobl a holwyd ar draws Prydain na ddylent.

Fodd bynnag, ffafriwyd meddyginiaethau os oeddent yn cyflawni meini prawf asesu gwerth meddyginiaethau newydd fel rhan o’r cynllun prisio wedi’i seilio ar werth. Cyflwynir hyn fis Ionawr 2014.  Ffafriwyd triniaethau os oeddent ar gyfer afiechydon difrifol, os oeddent yn lleihau’r baich ar ofalwyr, neu os oeddent ar gyfer afiechydon nad oedd unrhyw driniaethau eraill ar eu cyfer.  Ffafriwyd meddyginiaethau arloesol yn unig os oeddent yn cynnig manteision sylweddol i iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2012

Grant o Bwys gan AHRC wedi’i ddyfarnu i PRoMS – ‘Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth / The Production and Reading of Music Sources, 1480-1530’

Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012