Gall mannau anodd eu pysgota ar wely’r môr fod yn llochesau ar gyfer y gath fôr sydd mewn perygl

Un o'r tîm  yn dangos maint cath fôr.: © Luke AstonUn o'r tîm yn dangos maint cath fôr. © Luke AstonMae gwyddonwyr môr sy’n gweithio yn y Môr Celtaidd wedi darganfod lloches naturiol ar gyfer y forgath drwynfain, sydd mewn perygl enbyd.

Mae llawer o elasmobranciaid (siarcod a chathod môr) yn agored iawn i niwed gan orbysgota, ond dengys papur newydd yn y cylchgrawn mynediad agored PLOS ONE y gall ardaloedd bach ar wely’r môr lle ceir llai o bysgota na’r cyffredin gynnal poblogaethau mwy o’r rhywogaethau hyn.  

Yn ôl yr astudiaeth, mae’r mannau llochesu hynny yn y Môr Celtaidd yn cynnal o leiaf ddeg rhywogaeth o elasmobranciaid, yn cynnwys y gath fôr las brin (Dipturus flossada) a’i chyfnither, y forgath drwynfain (Dipturus intermedia). Arferid ystyried mai un rhywogaeth yn unig (D. batis) oedd dipturus, ond cafodd sylw yn y newyddion yn 2009 pan ganfuwyd achos o gamadnabyddiad (Newyddion y BBC: Science/Nature). Bellach, mae’r ddwy rywogaeth wedi’u rhestru fel rhywogaethau mewn perygl enbyd, ond bernir mai poblogaethau’r forgath drwynfain, a all dyfu i hyd at 2.5 medr ar eu hyd, sydd dan y bygythiad mwyaf o ddifodiant. Yn ôl rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd, rhaid i bysgotwyr daflu unrhyw forgathod trwynfain yn ôl ond, oherwydd eu bod yn tyfu ac yn epilio mor araf, mae hyd yn oed lefelau isel iawn o farwolaethau trwy bysgota bellach yn annerbyniol yng nghyswllt y rhywogaeth hon.

Gwyddonwyr o Brifysgol y Frenhines, Béal Feirste (Belfast), Prifysgol Bangor a Sefydliad Morol Iwerddon a gynhaliodd yr astudiaeth. Mae’r prif ymchwilydd, Dr. Samuel Shephard, yn awgrymu bod y ffaith fod cadarnle wedi’i ddarganfod yn y Môr Celtaidd ar gyfer y forgath drwynfain yn gyfle gwych i helpu i achub rhywogaeth sydd ar fin cael ei difodi. Ychwanegodd yr Athro Michel Kaiser, Cadeirydd mewn Cadwraeth Môr ym Mhrifysgol Bangor, “O’r blaen, mae rhai wedi dadlau nad yw ardaloedd sydd o ychydig yn unig o ddiddordeb i’r diwydiant pysgota yn werth eu cadw; fodd bynnag, mae’n amlwg fod yr astudiaeth hon yn gwrthdroi’r ddirnadaeth honno, ac yn amlygu mor bwysig yw rhai o’r ardaloedd hynny, mewn gwirionedd”.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod y diwydiant pysgota wedi ymateb yn gadarnhaol i’r sefyllfa ‘ennill-ennill’, sef bod gan ardaloedd sydd o ychydig yn unig o fudd masnachol bosibiliadau fel gwarchodfeydd morol o bwys. Cyflwynodd yr Athro Dave Reid y wybodaeth hon i arweinyddion diwydiannol, ac mae hynny wedi arwain at gynnwys yr ardaloedd hyn mewn cynlluniau rheoli arfaethedig ar gyfer elasmobranciaid ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd. Ymatebodd Eibhlín O’Sullivan, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Pysgotwyr De a Gorllewin Iwerddon, “Mae’r diwydiant pysgota yn Iwerddon yn gweithio gyda’r Sefydliad Morol ers 18 mis ar ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer Cathod Môr.  Mae’r ymchwil newydd hon yn ychwanegu gwybodaeth werthfawr o ran adnabod ardaloedd y gellid eu cau yn dymhorol.” Nododd yr Athro Reid, “Mae hwn yn fodel gwych ar gyfer cydweithredu rhwng y diwydiant pysgota a gwyddonwyr ym maes cadwraeth.”    


Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012