Gallai adleoli diwydiant moch Tsieina arwain at ganlyniadau anfwriadol

Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Sustainability (30/9/19) mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn rhybuddio y gallai awydd Llywodraeth Tsiena i adleoli ei diwydiant moch o'r De, er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr, arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol.

Yn 2015 gwaharddodd Llywodraeth Tsiena gynhyrchu da byw mewn rhai rhanbarthau i reoli llygredd dŵr wyneb yn agos at afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr.  Mae hyn wedi lleihau'r porc sydd ar gael a hynny mewn cyfnod pan ragwelir y bydd ei fwyta'n cynyddu o 690 i 1,000 miliwn o bennau y flwyddyn rhwng 2018-50.

Disgwylir y bydd cynhyrchu moch yn symud i daleithiau'r de-orllewin a'r gogledd-ddwyrain, lle mae mwy o dir ar gael ar gyfer hynny. Ond mae'r gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai hyn achosi trosglwyddo llygredd i ranbarthau newydd, lle mae ardaloedd mawr o goedwigoedd a glaswelltiroedd naturiol bregus.  Mae'r awduron yn codi pryderon efallai na fydd y technolegau priodol chwaith yn cael eu trosglwyddo i'r meysydd cynhyrchu newydd oherwydd diffyg buddsoddiad a chymhellion ariannol. Maent yn awgrymu y byddai costau llygredd aer i'r dinasyddion yn dileu unrhyw elw o gynhyrchu moch.

Daw'r awduron i'r casgliadau a ganlyn:

“Rhaid i ni ystyried y risgiau lluosog i’r amgylchedd, gan gynnwys llygredd dŵr wyneb, llygredd aer, diraddio pridd a bygythiadau i iechyd pobl, ond yn hanfodol hefyd y risgiau sy’n gysylltiedig â chludo da byw dros bellter hir, gan gynnwys lledaenu afiechydon anifeiliaid.”

Ychwanegodd un o'r cyd-awduron, Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor, sydd hefyd yn cyd-arwain grŵp ymchwil newydd yn y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol dros Ddatblygu Amaethyddiaeth Werdd ym Masn Afon Yangtze, ym Mhrifysgol y De-orllewin (Chongqing, Tsiena):

“Er bod angen adleoli moch o daleithiau deheuol fel mater o frys i amddiffyn ffynonellau dŵr hawdd eu niweidio, mae gan y rhanbarthau y bwriedir symud yr anifeiliaid iddynt ardaloedd mawr o goedwigoedd a glaswelltiroedd naturiol bregus a fyddai’n dioddef o ddyddodiad nitrogen a llygredd dŵr gwasgaredig o’r ffermydd moch newydd.  Mae'n ymddangos nad yw buddsoddiadau a chymhellion ariannol  i hyrwyddo technoleg rheoli tail a lleihau allyriadau amonia wedi mynd i ganlyn y systemau cynhyrchu newydd yn yr ardaloedd hyn. Felly, er y gall y polisi hwn ymddangos yn ddeniadol yn y lle cyntaf, gan gynnwys rhoi hwb i economi'r rhanbarthau llai datblygedig hyn, nid yw costau ehangach y trawsnewid hwn wedi'u hystyried yn llawn. Rydym yn argymell y gellid mynd i’r afael â’r canlyniadau anfwriadol hyn trwy well cynllunio gofodol, mabwysiadu strategaethau i ddefnyddio tail yn briodol mewn systemau lleol i dyfu cnydau, a hyrwyddo technolegau lliniaru llygredd."

Prif awduron y papur yw Zhaohai Bai, o'r Ganolfan Ymchwil Adnoddau Amaethyddol CAS, a Shuqin Jin o'r Ganolfan Ymchwil Economi Wledig  MOARA. Cyfranwyr eraill yw Dr David Chadwick, Prifysgol Bangor; Yan Wu, Prifysgol Archwilio Nanjing; Erasmus zu Ermgassen, UC Louvain, Gwlad Belg; Oene Oenema, Prifysgol Wageningen, Yr Iseldiroedd; Luis Lassaletta, Universidad Politécnica de Madrid, Gerard Velthof, Ymchwil Amgylcheddol Wageningen; Jun Zhao a Lin Ma o Academi Gwyddorau Tsiena.

DIWEDD
 Mae copi o'r llythyr ar gael o press@bangor.ac.uk[EE1] 


 [EE1]

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019