Parciau Cenedlaethol - oes yna 'eliffant yn yr ystafell'?

Mae Parciau Cenedlaethol a Chronfeydd Natur wedi bodoli mewn rhyw ffurf ers y 19eg ganrif a bellach maent yn ymestyn dros ryw 13% o diriogaeth y byd, ond nid ydym yn deall yn llawn effaith neilltuo cymaint o dir i gadwraeth bywyd gwyllt ar boblogaethau dynol. 

Mae tystiolaeth a gasglwyd mewn adolygiad systematig a gyhoeddwyd heddiw (28 Hydref 2013 yn Journal of Environmental Evidence) yn awgrymu bod sefydlu Parciau Cenedlaethol yn cael effeithiau cadarnhaol a negyddol.  Ond yn eu casgliadau, mae'r ymchwilwyr yn galw ar i sefydliadau sy'n ymwneud â chadwraeth bywyd gwyllt a lles pobl ystyried y ffordd orau o gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau deilliannau fydd o fudd i bobl ac anifeiliaid fel ei gilydd.

Comisiynwyd yr astudiaeth ar effaith ardaloedd cadwraeth ar gymunedau lleol gan Banel Ymgynghorol Gwyddonol a Thechnegol y Global Environment Facility, ac fe'i cynhaliwyd gan y Ganolfan Cadwraeth ar Sail Tystiolaeth a'r Ganolfan EPPI, Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain. 

Meddai prif awdur yr adroddiad, Andrew Pullin, o'r Ganolfan Cadwraeth ar sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor:

"Y gwir gyfle wrth adolygu'r dystiolaeth oedd deall sut mae sefyllfaoedd sydd o fudd i bawb yn cael eu creu a sut y llwyddir i'w creu mewn rhai lleoedd ond nid mewn lleoedd eraill.   Ceir peth tystiolaeth bod sefydlu ardaloedd cadwraeth o fudd i boblogaethau lleol felly yr her yw deall sut rydym yn sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol hyn dros rychwant lawer ehangach o amgylchiadau."

Roedd nifer cyfyngedig o astudiaethau'n dangos mwy o ddatblygu economaidd a chymdeithasol ar ffiniau'r parc nag yn bellach i ffwrdd, hyn yn awgrymu budd i gymunedau lleol.

Un o ganfyddiadau pwysicaf yr adolygiad oedd bod astudiaethau blaenorol wedi cael eu cynnal mewn ffordd dameidiog, heb lawer o fewnbwn ymchwil a heb strategaeth ymchwil gydlynol.  O ganlyniad, mae cynlluniau astudiaethau wedi bod yn gyfyng a'r sail tystiolaeth yn wael.  Mae llawer o honiadau a gwrth-honiadau ynghylch effeithiau ar gymunedau lleol ond prin fu'r astudiaethau gwrthrychol sydd wedi cael eu cynnal mewn ffordd briodol.   Dylai cyrff sy'n ymwneud â chadwraeth bywyd gwyllt a lles pobl gymryd cam yn ôl ac ystyried y ffordd orau o gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau mwy  o ddeilliannau sydd o fudd i bawb.

Sefydlwyd y Parciau Cenedlaethol cynharaf yn y 19eg ganrif ac yn aml byddai cymunedau lleol yn cael eu troi allan. Ers i arweinwyr y byd sefydlu'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn Uwchgynhadledd Rio yn 1992, mae'r Confensiwn wedi ceisio sefydlu rhagor o ardaloedd cadwraeth sydd o fudd i fywyd gwyllt a phobl trwy'r byd ond heb effeithiau negyddol ar boblogaethau dynol lleol.  Yn wir gall fod manteision i'r poblogaethau hyn yn sgil creu bywoliaethau newydd megis twristiaeth.   Serch hynny, mae sawl un yn dal i honni bod cymunedau lleol yn dioddef effeithiau negyddol.

Un gŵyn gyffredin yw bod pobl yn cael eu cau allan o diroedd traddodiadol mewn parciau fel y dywedodd un unigolyn a ymatebodd i astudiaeth:

"Mae'r warchodfa fel merch hardd na chewch chi ddim cyffwrdd ynddi.  Nid ydych yn cael unrhyw fantais ohoni.

⁠ Mae'r bryniau'n gyfoethog, ond mae'r dyn tlawd yn aros yn dlawd".

Mewn cyfweliadau gyda phentrefwyr o Barc Cenedlaethol Etosha (ICUN II), Namibia datgelwyd y berthynas ddofn oesol rhwng cymunedau a'u tir brodorol.  Cafodd y pentrefwyr eu hel o'u tiroedd brodorol yn y 1920au pan gynigiwyd cyfle i bobl Boer i ymgartrefu yn Namibia.  Roedd cynaeafu bywyd gwyllt yn dal i gael ei oddef yn yr ardaloedd hela hanesyddol yn y warchodfa hyd nes i Barc Cenedlaethol Etosha gael ei ffensio yn y 1970au.  Ceisiodd y pentrefwyr ddychwelyd i'w tiroedd brodorol yn y 1960au, ond cawsant eu hatal rhag gwneud hynny gan awdurdodau'r Llywodraeth.

"Bellach ni chawn gladdu ein meirw yno hyd yn oed"

"Mae'r ffens yn diffinio ein perthynas. Ni allwn fynd heibio iddi."

"Achosodd y system drefedigaethol lawer o boen i ni. Roeddem ni wedi gobeithio gyda'r llywodraeth newydd ar ôl annibyniaeth y byddem ni'n cael rhai hawliau ond ddaeth dim byd. Rydym yn parhau i lefain o'r gorffennol tan nawr". 

Yn aml bydd pobl leol yn dioddef yn uniongyrchol wrth i anifeiliaid gwyllt adael y parc a sathru a bwyta eu cnydau, difrodi eu cartrefi a lladd y bobl leol.

"Ni allwn fyw yma gydag eliffantod. Rydym yn plannu ein gwenith i fwydo'r eliffantod ac yna rydym yn dioddef.

"Pan fyddwn yn adrodd wrth swyddogion y parc  bod ein cnydau wedi eu difrodi a'n gwartheg wedi eu lladd, nid ydyn nhw'n gwneud dim, ond pan fyddwn yn ceisio ein hamddiffyn ein hun yn erbyn yr anifeiliaid gwyllt maen nhw'n cyrraedd o fewn munud i'n harestio."

Mae'r adolygiad systematig hwn yn gosod y dystiolaeth sylfaenol o leiaf ac yn tynnu sylw at yr angen i gynllunio astudiaethau o safon uchel gyda'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn cyfeirio polisi yn y dyfodol.  Nid oes angen i bobl a bywyd gwyllt gystadlu â'i gilydd, gall y ddwy ochr fod ar eu hennill a rhaid i hynny ddigwydd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013