Profi dull newydd o ddiogelu stociau pysgod y byd

PenfrasPenfrasMae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae’r papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.

Wrth i hyd at 25% o ddaliadau pysgod ddigwydd yn anghyfreithlon ar draws y byd, a hynny ar gost i Ewrop a fydd, yn ôl amcangyfrifon, hyd at €10 biliwn erbyn 2020, roedd yr UE yn awyddus i ymdrin â’r problemau sy’n wynebu’r diwydiant pysgota yn Ewrop.  Un fenter o bwys oedd cyllido project yr UE y tu ôl i’r datblygiad diweddaraf, sef project 3-blynedd ar draws Ewrop, ar gost o €4 miliwn, o’r enw “FishPopTrace” dan arweiniad Prifysgol Bangor.

Cegddu Ewropeaidd ar stondin farchnadCegddu Ewropeaidd ar stondin farchnadMae’r UE eisoes wedi deddfu, er 2011, fel bod gofyn am labelu unrhyw rywogaethau pysgod a werthir yn yr UE, gan nodi math a rhanbarth eu tarddle. O 2013, bydd hefyd yn ofynnol i’r holl aelod-wladwriaethau, yn unol â’r un rheoliadau, gynnal astudiaethau arbrofol gan ddefnyddio offer newydd i gadarnhau dilysrwydd y labelu hwn.  Ar ben hynny, mae’r cynnyrch eisoes yn wybyddus ac yn cael ei ddefnyddio. Yn y DU, mae DEFRA yn ariannu prosiect peilot i ddatblygu yr offer i helpu diwydiant pysgota'r DU i gasglu, rheoli a storio samplau i safonau fforensig.

Meddai Richard Beynon, Gweinidog dros yr Amgylchedd Naturiol a Physgodfeydd:

“Nid yn unig mae pysgota anghyfreithlon yn ddwyn oddi ar bysgotwyr cyfrifol a chymunedau pysgota, mae'n cael effaith ddinistriol hefyd ar y pysgod yn ein moroedd a chefnforoedd. Rwyf wrth fy modd yn gweld project mor arloesol a chwyldroadol â FishPopTrace yn dwyn ffrwyth. Bydd gwarchod ein moroedd a'n pysgotwyr gonest rhag y gamdriniaeth yma yn gamp eithriadol ac  rwyf yn hyderus y bydd y dechnoleg yn profi’n hynod werthfawr yn yr ymdrechion i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn fyd-eang.”

Fel yr eglura’r Athro Gary Carvalho, a fu’n arwain consortiwm FishPopTrace yr UE sydd y tu ôl i’r offer dilysu newydd:

“Problem fawr ar hyn o bryd yw na fu modd profi o’r blaen union darddle unrhyw bysgod penodol ac, mewn rhai amgylchiadau, yn benodol yn achos pysgod sydd wedi’u prosesu neu eu coginio, gall fod yn eithaf anodd hyd yn oed adnabod y rhywogaeth, heb sôn am ei tharddle.

“Aethom ati i ddatblygu dull y gellid ei ddefnyddio ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd ac ar draws y diwydiant pysgod, ac rydym wedi dangos ei effeithiolrwydd o ran pedair rhywogaeth sy’n gyffredin yn Ewrop, sef Penfras yr Iwerydd, Pennog yr Iwerydd, y Lleden Chwithig Cyffredin a’r Gegddu Ewropeaidd, a phob un ohonynt dan fygythiad o orbysgota ac o bysgota anghyfreithlon sydd neb ei gofnodi na’i reoleiddio (IUU). Gellir defnyddio’r offeryn i adnabod neu gymharu cyfres o nodau genynnol a nodwyd ymlaen llaw o fewn samplau o bysgod, a hynny ar unrhyw adeg yn ystod y gadwyn ddefnyddwyr, o’r rhwyd hyd at y plât, ac i olrhain y pysgod i’w tarddle neu i’w grŵp bridio. Gellir defnyddio’r offer hynny, sy’n seiliedig ar DNA, ochr yn ochr â thechnolegau presennol, megis labeli confensiynol ond, yn bwysig, maent yn darparu dull annibynnol a chadarn o gynnal profion dilysrwydd ad hoc.”

“Mae’r offer hyn hefyd yn hyblyg dros ben. Rydym eisoes wedi canfod nodweddion poblogaethau unigol mawr o bysgod – megis Penfras yr Iwerydd yn hytrach na Phenfras y Baltig, ond mae’r system yn ddigon nerthol fel y gellir adnabod pysgod o leoliadau daearyddol llawer llai os oes angen.  Yn yr un modd, gellir datblygu’r system i’w defnyddio ar unrhyw rywogaethau o bysgod.

PenwaigPenwaigYmhell o fod yn ddull o gosbi, cynorthwyo’r diwydiant pysgota yw’r ethos y tu ôl i ddefnydd yr offer hynny, gan roi mwy o sicrwydd iddynt ynglŷn â tharddiad a statws cadwraeth y pysgod a ddelir. Mae gan yr offer ddefnyddiau o ran dilysu amryw o systemau eco-ardystio ac eco-labelu a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond  nad ydynt wedi’u dilysu i raddau helaeth. Bydd gan y rheiny sydd â’r cyfrifoldeb o sicrhau cadwraeth a chynaladwyedd ein stociau pysgod fodd llawer mwy dibynadwy, nid yn unig i adnabod poblogaethau sydd mewn perygl neu’n ffynnu, ond hefyd system sydd wedi’i dilysu’n fforensig, y gellir ei defnyddio i brofi dilysrwydd ar unrhyw adeg yn ystod y gadwyn gyflenwi, er mwyn gweithredu ar y ddeddfwriaeth berthnasol.

Yn olaf ond nid yn lleiaf, bydd defnyddwyr yn gallu prynu pysgod, yn ffyddiog eu bod yn prynu neu’n bwyta’r cynnyrch a ddisgrifir ar y label neu’r fwydlen, a bod y nwyddau y maent wedi’u prynu’n dod o stociau cynaliadwy o bysgod.

A’r canlyniadau wedi’u dilysu, pan gânt eu cyflwyno, gallwn ddisgwyl i fwy o achosion ddod gerbron llysoedd Ewrop, wedi’u hategu gan dystiolaeth fforensig, yn yr un modd ag y defnyddir fforenseg fel tystiolaeth mewn troseddau dynol.

Daw Carvalho i ben gan ddweud: “Mae pysgota anghyfreithlon nad yw wedi’i reoleiddio  wedi chwarae rhan fawr yn y broses o orddefnyddio poblogaethau pysgod yn fyd-eang. Wrth i’r offer hyn wella’r dechnoleg hon a chael eu defnyddio’n arloesol yn Ewrop, mae’r offer newydd hyn yn ffordd newydd ymlaen yn y gwaith o reoli adnoddau pysgod yn fyd-eang, a byddant yn chwyldroi dulliau o bennu tarddle ac yn dod yn offer gwerthfawr iawn yn yr ymgyrch yn erbyn pysgota anghyfreithlon a cham-labelu ar raddfa fyd-eang.” 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012