O Fangor i Frwsel: Myfyrwyr y Gyfraith a Busnes yn uno ar daith i Ewrop
Unodd myfyrwyr o Ysgol Busnes Bangor ac Ysgol y Gyfraith, Bangor ar gyfer taith astudio i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop, dan nawdd Jill Evans, ASE, a brofodd yn agoriad llygaid iddynt.Myfyrwyr Busnes a'r Gyfraith tu allan i adeilad Louise Weiss y Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg
Gan gychwyn ym Mrwsel, croesawyd y myfyrwyr i Gyngor y Gweinidogion, y Comisiwn Ewropeaidd, Pwyllgor yr UE ar gyfer y Rhanbarthau, a’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, cyn symud ymlaen i Lwcsembwrg, cartref Llys Cyfiawnder Ewrop. Yna, aethpwyd am dro i Senedd Ewrop yn Strasbwrg, lle bu’r myfyrwyr hefyd ar ymweliad â Llys Hawliau Dynol Ewrop, a Phalas Ewrop, cyn cael noson gofiadwy ym Mharis.
Dan arweiniad Brian Jones, Darlithydd mewn Rheolaeth Strategol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn yr Ysgol Busnes, ac Evelyne Schmid, Darlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol ac Ewropeaidd yn Ysgol y Gyfraith, roedd y daith i fod i roi gwell dealltwriaeth i’r myfyrwyr o swyddogaethau’r gwahanol sefydliadau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a’r modd y maent yn rhyngweithio â sefydliadau allweddol a chyfraith gartref yn y DU. Roedd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr o’r ddwy Ysgol ddod i adnabod ei gilydd a gweld yn uniongyrchol y modd y mae disgyblaethau’r Gyfraith a Busnes yn dylanwadu ar ei gilydd.Gyda Jill Evans, ASE ar gyfer Plaid Cymru, yn y Senedd Ewropeaidd
Ar y daith, cyfarfu’r myfyrwyr â nifer o bobl bwysig, yn cynnwys Jeremy Rand o Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Cyngor yr Undeb Ewropeaidd; Tobias Maass a Thomas Springbett, Dadansoddwyr yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd; Jean-Pierre Faure o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop; Christopher Jones o Bwyllgor y Rhanbarthau; a Mr K Ziegler a Mrs A Melesko, Ysgrifenyddion Cyfreithiol yn Llys Cyfiawnder Ewrop. Yn y Senedd yn Strasbwrg, cyfarfuont â Jill Evans ASE, ac â dau aelod arall o Gymru yn Senedd Ewrop, sef Derek Vaughan ASE a Kay Swinburne ASE.Yn Llys Cyfiawnder Ewrop, Luxembourg
Yn Llys Hawliau Dynol Ewrop, cyfarfu’r grŵp â’r cyfreithiwr Aysegul Uzun-Marinkovic, tra bu Alun Drake, Llefarydd dros Gyngor Ewrop a Phennaeth Adran y Wasg, yn eu croesawu i Gyngor Ewrop. Yn ogystal â rhoi cyflwyniadau llawn gwybodaeth ar weithrediad y sefydliadau Ewropeaidd, rhoddodd y siaradwyr hyn syniad ynglŷn â’r cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn Ewrop.
Cynigir y daith faes i Ewrop yn flynyddol i fyfyrwyr israddedig sy’n dilyn modiwlau ‘Britain and the EU’ (Busnes) ac ‘European Union Law’ (y Gyfraith). Bu'r myfyrwyr yn treulio eu noson olaf yn Mharis cyn dychwelyd i Fangor
Rhai o sylwadau’r myfyrwyr:
“Taith lawn gwybodaeth a diddorol iawn. Cyfle gwych inni gwrdd â phobl ddiddorol iawn mewn swyddi dylanwadol ac uchel iawn eu statws.”
“Roedd yr ymweliad â Chyngor Ewrop yn ddiddorol iawn. Roedd yn ddiddorol gweld y gwahaniaeth rhwng y gwaith a wneir gan y Cyngor a gwaith yr Undeb Ewropeaidd ei hun, yn ogystal â’r gwahaniaeth rhwng y ddau.”
“Mae’n bosibl mai’r ymweliad â Llys Cyfiawnder Ewrop oedd y rhan fwyaf diddorol i gyd. Buom yn wirioneddol lwcus i weld achos llys – roedd yn ddigon hawdd hyd yn oed i fyfyriwr o’r tu allan i’r Gyfraith ei ddilyn. Yn ddiweddarach yn y dydd, buom hefyd yn ddigon ffodus i gael siarad ag Aelodau Seneddol Ewropeaidd presennol, a thrwy hynny, roeddwn yn gallu deall yn well y Senedd a swyddogaethau pawb sydd ynghlwm wrthi.”
“Bu’r holl ymweliadau’n wych, a’r holl siaradwyr yn wybodus iawn ac yn llawn cymorth wrth ateb ein cwestiynau. Mae wedi bod yn daith wych!”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2012