Profi’r dŵr ... Fferyllwyr yn gwirio lefelau metel mewn dŵr yfed
Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru a’r gororau yn chwarae rôl cemegwyr fforensig yn gwirio’r cynnwys metel mewn samplau o ddŵr wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor.
Yn y gystadleuaeth a’r sialens a osodwyd i’r myfyrwyr Cemeg lefel-A, roedd yn rhaid iddynt weithio i safonau proffesiynol, gan ddefnyddio offer labordy o safon ddiwydiannol, i ddadansoddi faint o gopr oedd mewn sampl o ddŵr.
Cafodd y timau doddiant anhysbys o gopr mewn dŵr, ac roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio dau ddull gwahanol o sbectrosgopeg, AAS (Sbectrosgopeg Amsugnad Atomig) ac UV/ViS (Sbectrosgopeg Weladwy trwy Uwch-fioled) er mwyn canfod y lefelau o gopr yn y sampl o ddŵr. Ni fyddai’r naill dechneg na’r llall ar gael yn y labordy yn yr ysgol – yn enwedig yr AAS sy’n defnyddio fflam sy’n cynhesu i 2900 gradd C!
Meddai Dr Sally Browne, athrawes gemeg yn Ysgol Llanfyllin, Powys:
“Mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi cyfle unigryw i’m myfyrwyr brofi cysyniadau a thechnegau na allwn eu harchwilio yn yr ysgol. Maent hefyd yn cael blas ar wyddoniaeth ymarferol ar lefel brifysgol. Mae’r myfyrwyr yn dwlu arni ac mae’n eu helpu i benderfynu ynglŷn â beth i’w astudio ar gyfer gradd. Rydym yn dod i’r digwyddiad hwn bob blwyddyn, ac rydym wedi cael bod y rhai sy’n dod yma i Fangor yn aml yn mynd ymlaen i astudio cemeg a biocemeg mewn prifysgol.”
Mae profi dŵr yfed yn rhywbeth sy’n digwydd mewn bywyd go-iawn, ac mae creu’r math hwn o senario ar gyfer y gystadleuaeth yn dangos un o’r swyddogaethau niferus a gyflawnir gan fferyllydd yn y byd modern. Aseswyd y timau yn ôl medr, dealltwriaeth a chywirdeb, yn ogystal â gwaith tîm a diogelwch yn y labordy.
Tîm Ysgol Uwchradd Caergybi aeth â hi. Bydd aelodau’r tîm hwn yn ymuno ag ysgolion eraill y DU ar gyfer y rownd derfynol, sydd i’w chynnal yn UCLAN, Preston, ar 23 a 24 Mehefin eleni.
Meddai Shaun Baxter, athro Cemeg dan hyfforddiant yn Ysol Uwchradd Caergybi a oedd yn bresennol gyda’r tîm buddugol, “Rwy’n sicr y bydd y fuddugoliaeth hon yn hwb i fyfyrwyr blwyddyn 12 wrth iddynt ymgeisio y flwyddyn nesaf am le mewn prifysgol, ac rydym yn edrych ymlaen at gystadlu yn y rownd derfynol yn Preston ym Mehefin.”
Enillwyr y llynedd, Ysgol Uwchradd Eirias o Fae Colwyn, a ddaeth yn ail, a Choleg Cambria (Coleg Iâl) ddaeth yn drydydd.
Meddai Dr Enlli Harper, trefnydd y digwyddiad, “Roedd yn bleser gennym gael nawdd hael gan gwmni Liquid Research Ltd o Fangor, a fu mor garedig â dod draw i’n helpu i feirniadu yn y gystadleuaeth. Cawsom argraff dda iawn gan frwdfrydedd a safon uchel y cystadleuwyr eleni. Dymunwn bob lwc i Ysgol Caergybi ar gyfer y rownd derfynol yn Preston ym Mehefin.
Nodiadau’r Golygydd:
Mae Liquid Research yn wneuthurwr hylifau magnetig wedi’i leoli ym Mangor, Gwynedd.
Delweddau ynghlwm: Mae mwy o luniau ar gael, i ofyn am fwy o ddelweddau, cysylltwch â: stevie.scanlan@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014