Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Generation Beth yn datgelu cenhedlaeth sy’n gwerthfawrogi eu pleidlais ac yn teimlo’n Ewropeaidd

Mae S4C yn galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau fel rhan o broject rhyngweithiol Ewropeaidd. Gwahoddir y darlithydd Dr Cynog Prys a myfyriwr doethuriaeth Shân Pritchard, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i drafod a dadansoddi canfyddiadau’r project sydd â phartneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd.

Mae’r project arloesol hwn, sef ‘Generation Beth’ yn esblygiad o arolwg hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 a elwir yn ‘Generation Quoi’. Y tro hwn, mae 12 o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad gwirioneddol Ewropeaidd. Mae'r project yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da.

Ers 2014 mae’r fyfyrwraig Shân Pritchard wedi cael cyfle i weithio gyda Cwmni Da,  wrth barhau gyda’i astudiaethau academaidd fel rhan o ysgoloriaeth KESS. Roedd y bartneriaeth wreiddiol yn 2014 mor llwyddiannus nes bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a Cwmni Da yn awyddus i barhau gyda’r trefniant am ddwy flynedd arall. Rhoddodd hyn y cyfle i Shân a’i goruchwyliwr Dr Cynog Prys i gynorthwyo ar nifer o brojectau cyffrous, a’r project diweddaraf yw ‘Generation Beth.’

Prif amcan y project yw llunio portread gonest o’r genhedlaeth sydd rhwng 18 a 34 mlwydd oed. Mae’r project hwn yn brosiect aml-blatfform, sydd â nifer o briodweddau a haenau amrywiol yn perthyn iddo. Y brif elfen yw holiadur ar-lein sy'n holi ynglŷn â phob math o bynciau difyr, o wleidyddiaeth a mewnfudo i gyffuriau a rhyw - ni ellir gwadu n ei fod yn holiadur trwyadl!

Yn deillio o’r bartneriaeth gyffrous hon, gwahoddwyd Dr Cynog Prys a Shân i rannu eu harbenigedd drwy ddadansoddi a thrafod y canfyddiadau. Gwneir hyn mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys ysgrifennu cyfres o erthyglau byrion, sydd i’w gweld ar wefan ‘Generation Beth’.

Yn ôl Dr Cynog Prys:

“Mae o’n wych cael gweithio unwaith eto gyda Cwmni Da a S4C. Mae’r project yma yn un hynod gyffrous ac yn cynnwys partneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd. Mae bron i 550,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y project ledled Ewrop felly mae maint y data a gasglwyd yn sylweddol iawn. Mae’r project yma yn rhoi cyfle gwych i ni gael mewnwelediad i sut mae poblogaeth Cymru, ac Ewrop, yn gweld y byd o’u hamgylch. Rydym yn byw drwy gyfnod o ansicrwydd a newid cymdeithasol mawr yn Ewrop, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y data a gasglwyd hyd yn hyn”.

Dywed Shân:

“Mae Ysgoloriaeth KESS wedi darparu llu o gyfleoedd gwych i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cael cyd-weithio gyda chwmni nodedig fel Cwmni Da ar nifer o brojectau cyffrous wedi bod yn fraint. Yr hyn sy’n arbennig am ‘Generation Beth’ yw pa mor gynhwysfawr â chwbl unigryw yw’r project. Dwi’n hynod o falch fod S4C a Cwmni Da wedi sicrhau fod cynrychiolaeth o Gymru, sydd wedi ein galluogi i ni fel cenedl i gyfranogi yn y project arloesol hwn.”

Mae’r project hwn eisoes wedi ei lansio yng Nghymru, ac er bod y sampl yn gymharol fach ar hyn o bryd, mae’n cynnig cyfle cychwynnol i ni edrych ar rai o’r canfyddiadau mwyaf diddorol hyd yn hyn.

Ni ellir osgoi ei bod yn gyfnod etholiadau yma yng Nghymru, ac mae canfyddiadau’r holiadur yn amlygu gwerth a phwysigrwydd democratiaeth i drigolion Cymru. Dywed 80% o gyfranogwyr rhwng 18 a 34 na allent fod yn hapus heb  y cyfle i bleidleisio. Mae’r ganran hon yn sylweddol iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd yn deillio o’r hinsawdd economaidd bresennol, sy’n dynodi cyfnod o doriadau a chaledi, mae’n ymddangos bod pleidleisio yn nodwedd hollbwysig i’r mwyafrif o ‘Millenials’ Cymru. Wrth gymharu atebion Cymru i’r cwestiwn hwn gyda rhai o wledydd eraill ar draws Ewrop, ymddangosir mai Cymru sydd ag un o’r canrannau uchaf o ymatebwyr sy’n nodi na allent fyw heb bleidlais, yn dilyn Bwlgaria a Groeg.

Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf. O ganlyniad, mae’r cwestiynau o fewn yr arolwg sy’n canolbwyntio ar le Cymru o fewn Ewrop yn hynod o amserol.

Gwelwn o’r data hyd yn hyn fod  53% o gyfranogwyr o Gymru yn nodi eu bod yn teimlo’n Ewropeaidd, tra bod 47% yn nodi nad ydynt. Mae’n bosib dehongli felly nad oes consensws clir ynglŷn â hunaniaeth Ewropeaidd y bobl a holwyd. Ond beth felly am yr Undeb Ewropeaidd ei hun? Mae’r ffigyrau o Gymru yn glir iawn, gyda 66% yn anghytuno y dylid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd 25% eu bod yn cytuno a gadael yr undeb, gyda 9% yn dweud nad oes ots ganddynt. Awgryma’r data felly nad yw diffyg hunaniaeth Ewropeaidd o reidrwydd yn golygu bod pobl am adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n bosib bod ffactorau eraill ar waith, er enghraifft, ffactorau economaidd. Ai diwedd y gân fydd y geiniog?

Yn ogystal â’r holiadur, bydd S4C yn dangos cyfres o bedair rhaglen ddogfen sydd yn portreadu pobl ifanc o’r holl wledydd sy’n cyfranogi. Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ar 13Mai ar S4C. Yn eu plith mae cynrychiolaeth o Gymru, sef y gantores Efa Thomas o Gricieth, sydd o bosib yn fwy adnabyddus fel ‘Efa Supertramp’.

Dywed Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol Cwmni Da:

“Mae’r Ysgoloriaeth KESS wedi ein galluogi ni i alw ar arbenigaeth Shân a Cynog ym maes cymdeithaseg ac mae’r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae mewnbwn y ddau ar brojectau mawr aml-blatfform fel ‘Dyma Fi’ a ‘Generation Beth’ wedi bod yn amhrisiadwy.”

Mae modd i bawb dros 16 mlwydd oed fod yn rhan o’r prosiect drwy gwblhau’r holiadur ar-lein. Cofiwch hefyd am y clipiau fideo ble mae’n bosib clywed cyfranogwyr yn ymateb a thrafod y cwestiynau.

Ewch draw i’r wefan i gymryd rhan - http://generationbeth.s4c.cymru/cy/

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr adran
      • Staff
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltu â ni
    • Israddedigion
      • Proffiliau Myfyrwyr
      • Astudio tramor
    • Cyrsiau Ôl-raddedigion Trwy Ddysgu
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedigion
    • Archebu Prospectws
    • Ymchwil
      • Ymchwil Moeseg
    • Newyddion a Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
      • Cynhadleddau
    • Fideos
    • Cysylltu â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor