Newyddion: Rhagfyr 2010
Ymestyn y Food Dudes yn ninas Wolverhampton
Mae Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol GIG Dinas Wolverhampton, sydd wedi arloesi ym Mhrydain drwy fabwysiadu defnydd cynllun Food Dudes i annog plant ysgol i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, wedi penderfynu ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall. Wedi’i ddatblygu gan Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgaredd Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, cafodd y cynllun ei gyflwyno yn Ionawr 2009. Roedd wedi’i gynllunio i redeg tan Ragfyr 2011, gan fod o fudd i 20,000 o ddisgyblion Ysgolion cynradd ac arbennig – ar gost o £500,000.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010