Newyddion: Ionawr 2018
Llwybr newydd yn arwain at yrfa mewn nyrsio
Rhaglen Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion gan Brifysgol Bangor yw'r cwrs cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae'n cynnig llwybr carlam dwy flynedd i raddedigion diweddar ym maes gwyddor bywyd a gwyddorau cymdeithas allu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018
Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant
Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydlu’r Early Intervention Foundation , yn traddodi darlith dan y teitl “ Early Intervention - why leave it so late? ” nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau), Prifysgol Bangor. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlith gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ond gall cymorth cymunedol gynnig diogelwch
Mae pobl sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod (ACEs) fel byw gyda thrais domestig yn ystod eu plentyndod yn wynebu risg uwch o lawer o salwch meddwl drwy gydol eu hoes. Cafodd canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol newydd ledled Cymru fod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE bron 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o gymharu â'r rhai nad oedd wedi cael unrhyw brofiadau ACE.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
What supplements do scientists use, and why?
Dyma erthygl yn Saesneg gyda chyfraniad gan Simon Bishop o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2018
You are more likely to deny the truth in your second language
Dyma erthygl yn Saesneg gan Manon Jones O'r Ysgol Seicoleg a Ceri Ellis o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
'Cyfnewid' anffurfiol rhwng Cymru a Ghana
Fe gafodd Iola Mair Morris brofiad i’w gofio, diolch i’w chwrs ym Mangor. Fe fu’r ferch o’r Bala, sydd ar ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs nyrsio anabledd dysgu, ar ymweliad pythefnos â Ghana yng ngorllewin Affrica. Hyd yn oed ym Mangor, mae Iola Morris yn gallu trafod Ghana ... mae un o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn nyrs gofrestredig o’r wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018