Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Profi rhaglen wrth-fwlio effeithiol i Gymru

Mae canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwilio  i wasanaethau newydd ac arloesol i blant a'u teuluoedd a'u sefydlu ar hyd a lled Cymru, yn awr yn troi ei sylw at broblem bwlio mewn ysgolion. 

Mae'r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn awr yn ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglen wrth-fwlio i ysgolion. Mae'r ganolfan hon eisoes wedi cyflwyno nifer o raglenni llwyddiannus ym maes ymddygiad plant, sydd wedi cael eu mabwysiadu gan deuluoedd, ysgolion, cynlluniau Cychwyn Cadarn ac eraill. Yn ogystal, mae wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a dylanwadu ar ei pholisi.

Gyda'u partner, y Dartington Social Research Unit, a chyllid gan gynllun Awydd am Arloesi y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, mae'r ganolfan yn asesu effeithiolrwydd rhaglen wrth-fwlio i ysgolion.   Yn cyfrannu hefyd drwy wneud dadansoddiad o gost-effeithiolrwydd y rhaglen mae Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol.

Meddai'r Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan  Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor:

"Mae bwlio'n broblem fawr yn ein hysgolion ac ymysg plant a phobl ifanc ac rydym yn clywed straeon cyson ar y cyfryngau am fwlio, naill ai wyneb yn wyneb neu 'seibr-fwlio' drwy gyfryngau cymdeithasol.   Er nad yw ystadegau'n awgrymu bod y broblem yng Nghymru'n waeth nag yn unman arall, mae llywodraeth Cymru ac addysgwyr yn awyddus i fynd i'r afael â'r broblem.  Cyn gwario arian cyhoeddus gwerthfawr, mae'n rhaid profi bod unrhyw raglenni'n effeithiol a'u bod yn rhoi gwerth am arian cyn y gellir eu sefydlu. Ac mae gennym ni ddegawdau o arbenigedd yn gwneud hynny.

"Rydym wedi chwilio am raglenni effeithiol i ddelio â bwlio, a dwi'n credu ein bod wedi cael hyd i raglen dda yn rhaglen gwrth-fwlio KiVa.  Cafodd ei datblygu ym Mhrifysgol Turku yn Y Ffindir a'i chyllido gan lywodraeth Y Ffindir.   Er iddi fod yn llwyddiant yno, mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn mesur effeithiolrwydd y rhaglen yn ein hysgolion ein hunain cyn argymell ei sefydlu ar draws y wlad," ychwanegodd.

Fel hyn yr eglurodd Suzy Clarkson, ymchwilydd a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor: 

"Mae 'KiVa', sy'n golygu 'dymunol' mewn Ffinneg ac sydd hefyd yn acronym dros 'yn erbyn bwlio', yn rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol. Mae'n cynnwys gwersi dosbarth, gemau ar y we i roi prawf ar yr hyn mae plant yn ei ddysgu, gwefan i rieni, deunydd cynhwysfawr i athrawon, festiau chwarae KiVa, posteri ysgol a threfn benodol i ddelio â digwyddiadau o fwlio.   Mae ymchwil o'r Ffindir wedi dangos bod y rhaglen yn hynod effeithiol i leihau achosion o fwlio ac erlid.  Erbyn hyn mae'r rhaglen wedi cael ei hymestyn ar draws Y Ffindir gyda chyllid gan lywodraeth y wlad. 

Mae'r ymchwil bresennol yn ymwneud â phlant rhwng 7 ac 11 oed mewn 21 o ysgolion cynradd yng Nghymru.  Yn eu hanner mae'r rhaglen KiVa yn cael ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn ysgol hon, tra bydd yn cael ei chyflwyno ymhen blwyddyn yn y 10 ysgol arall.  Mae hyn yn estyniad i'r arbrawf peilot mewn 17 o ysgolion a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.  

Ychwanegodd Suzy:  "Er na chynhaliwyd profion yn erbyn ysgolion cymharu, nad oedd y rhaglen ganddynt, fe wnaeth ein harbrawf peilot mewn pedair ar ddeg o ysgolion yng Nghymru a thair ysgol yn Sir Gaer roi digon o ganlyniadau positif i ni gynnal arbrawf rheoledig mwy gan ddefnyddio deunyddiau dwyieithog gyda'r plant mewn 21 o ysgolion ledled Cymru."

Mae Ysgol Llanllechid yn un sy'n cymryd rhan yn y project.  Meddai Mrs Gwenan Davies Jones, sy'n brifathrawes yno:  "Mae'r ysgol wedi ymwneud â'r rhaglen KIVA gyffrous yma dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae sgiliau rhyngbersonol y plant yn sicr wedi gwella.  Maen nhw wedi cydweithio drwy eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud ysgol KIVA i gryfhau eu cyfeillgarwch a'u perthynas ag eraill.  Mae'r disgyblion yn gallu adnabod unrhyw arwyddion o wrthdaro ac maen nhw'n awyddus bob amser i helpu eraill."

Am fwy o wybodaeth am KiVa ewch i:

http://www.kivakoulu.fi/there-is-no-bullying-in-kiva-school

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2013

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • Polisïau
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltiadau’r Coleg
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor