Newyddion: Gorffennaf 2017

Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio

Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, ar ôl manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig.

Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf

Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig

Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn.

Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017

Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017