Newyddion Ymchwil
- Newyddion Ymchwil diweddaraf
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion Ymchwil A–Y
Newyddion Ymchwil: Rhagfyr 2011
Nid "am ei fod yno" yn unig y mae ei ddringo’n apelio
Efallai bod y mynyddwr enwog, George Mallory wedi rhoi’r ateb bachog, bod pobl yn dringo Everest 'oherwydd ei fod yno'. Ond mae’r rhesymau dros beth sy’n ysgogi pobol i chwilio am chwaraeon eithafol megis mynydda tir uchel lawer mwy cymhleth. Mae seicolegwyr chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael eu cydnabod am fid yn flaenllaw am sefydlu'r cymhellion seicolegol dros gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Rhagfyr 2011
Arbenigedd Bangor mewn ‘technoleg a fydd yn newid y byd’
Mae maes ymchwil y mae Bangor yn arwain ynddo ar raddfa fyd-eang yn cael ei ddisgrifio fel un o’r deg syniad a allai newid y byd, yn rhifyn y mis hwn (Rhagfyr) o’r Scientific American.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2011
Diflaniad tabŵs traddodiadol yn bygwth lemyriaid Madagascar
Mae ynys Madagascar yn enwog drwy’r byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiau’r wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.
Mae ymchwil gan dîm o Brifysgol Bangor a’r sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am hela’r Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn ôl traddodiad roedd Indri wedi achub un o’u hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu mêl gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaetha’r modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill sy’n symud i’r ardal, yn rhannu’r un gwerthoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011
Ymchwilwyr o’r Brifysgol yn ceisio adborth gan ofalwyr hŷn am bobl gyda dementia
Gall pobl 65 oed a hŷn sydd â phrofiad o edrych ar ôl rhywun â dementia gyfrannu at ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan academyddion ym Mhrifysgol Bangor. Mae economegwyr iechyd yno’n ymchwilio i ofynion economaidd gofalu am bobl â dementia. Bydd canlyniadau eu hymchwil yn cyfrannu at siapio polisïau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011
Gyrfaoedd cynaliadwy mewn gwyddoniaeth i Gymru ac Iwerddon- Rhaglen Cynaliadwyedd Swyddi
Mae project gwerth €2.6 miliwn i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector sydd yn pontio cemeg a gwyddorau bywyd newydd ei gyhoeddi. Mae’r project, sy’n cael ei ariannu dan raglen Iwerddon Cymru 2007-2013 IVA INTERREG, yn cael ei reoli yng Nghymru gan Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor. Bydd y "Rhwydwaith Sgiliau Gwyddonol Iwerddon a Chymru " (WINSS) o fudd i gynorthwyo cwmnïau sy'n gweithio ar draws gwyddorau cemeg, gwyddorau bywyd a deunyddiau. Bydd y project yn darparu ystod o hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol i ddatblygu'r arbenigedd sydd ei hangen ar y sector.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011
Y "Scallop Association” yn ariannu project cydweithredol i ddiffinio pysgodfa cregyn bylchog y Sianel
Mae project ymchwil PhD wedi ei ariannu gan ddiwydiant wedi dechrau ym Mhrifysgol Bangor i wella dealltwriaeth pobl am bysgodfa cregyn bylchog yn y Sianel.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2011
Cynghrair Strategol newydd yn gweithio dros Gymru
Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr bydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cyhoeddi Cynghrair Strategol newydd sy’n cyflwyno cyfnod newydd yn y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2011
Adroddiad pwysig yn canfod bylchau a gwendidau sylweddol mewn gwybodaeth iechyd i blant
Nid yw pob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr iechyd cronig, neu sydd ag angen llawdriniaeth, yn cael mynediad at wybodaeth o safon uchel sy’n addas i blant i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd iddo/iddi. Dyna ganfyddiad allweddol astudiaeth tair blynedd a ariannwyd gan raglen Cyflenwi a Threfnu Gwasanaethau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac a arweiniwyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2011
Magu plant mewn cymuned ddwyieithog
Mae oddeutu 70% o boblogaeth Gwynedd, cadarnle'r Gymraeg, yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg. Mae llawer o rieni a oedd yn siarad Cymraeg wrth dyfu i fyny, a hefyd llawer a oedd yn siarad Saesneg yn unig wrth dyfu i fyny, yn magu eu plant yn ddwyieithog. Hefyd mae’r rhan fwyaf o blant yn dechrau ar eu haddysg yng Ngwynedd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2011