Modiwl UXC-1038:
Cyf. i Ymarfer y Cyfryngau

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music and Media

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 1

Trefnydd: Mr Huw Powell

Amcanion cyffredinol

Amcan y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ymarfer y cyfryngau. Caiff myfyrwyr hyfforddiant sylfaenol ar ddefnyddio offer cynhyrchu fideo a chlywedol.

Gan weithio mewn grwpiau bychain, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gynhyrchu dau ddarn o waith creadigol, y naill ar ffurf fideo a'r llall ar ffurf glywedol. Yna bydd disgwyl i'r myfyrwyr adfyfyrio'n feirniadol ar y proses cynhyrchu a'r darnau o waith terfynol, gan gyfeirio at ystod o theorïau.

Cynnwys cwrs

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau a'r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu'r cyfryngau trwy waith creadigol.

Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr, gan ddefnyddio offer darlledu safonol. Caiff myfyrwyr hefyd eu dysgu i ddadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, a chreu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu'r cyfryngau.

Meini Prawf

trothwy

Trothwy (40%+)

Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:

  • Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac yn gadael pethau allan.
  • Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur.
  • Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
  • Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.

ardderchog

Rhagorol (70%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
  • Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
  • Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.

da

Da (50%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:

  • Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
  • Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
  • Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
  • Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.

Da iawn (60%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:

  • Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
  • Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
  • Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
  • Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.

Canlyniad dysgu

  1. Dangos dealltwriaeth o'r prosesau ar gyfer cynhyrchu testunau'r cyfryngau.

  2. Dangos sgil technegol sylfaenol mewn un agwedd ar gynhyrchiad grwp.

  3. Edrych yn feirniadol ar y broses o gynhyrchu'r cyfryngau yng nghyd-destun theori cynhyrchu'r cyfryngau.

  4. Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Traethawd 1000 gair 25
Cynhyrchiad Sain 25
Arfarniad Cynhyrchu 25
Log Cyfraniad Unigol 25

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Private study 167
Practical classes and workshops

Gweithdy, 3 awr yr wythnos

33

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
  • Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
  • Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Rhagofynion a Chydofynion

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: