Mwy am ein ymchwil
Ymchwil yn Ysgol Busnes Bangor
Mae Ysgol Busnes Bangor yn enw sy'n gyfystyr â rhagoriaeth mewn ymchwil. Cawsom sgôr GPA o 2.81 yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), gyda 68% o'n cynnyrch ymchwil yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion 3* neu 4*. Mae Ysgol Busnes Bangor yn y safle uchaf o holl brifysgolion y DU ar gyfer ymchwil ym maes Bancio, y 25ain safle yn fyd-eang (RePEc, Awst 2021).
Mae ein harbenigedd ymchwil wedi ei rannu'n bedwar chlwstwr:
- Ymddygiad Defnyddwyr
- Cyfathrebu Corfforaethol
- Credyd ac Ansicrwydd
- Gwasanaethau Ariannol: Cystadleuaeth, Ymddygiad ac Amddiffyn Defnyddwyr
Mae gennym hefyd dau ganolfan ymchwil: y Centre for Impression Management in Accounting Communication (CIMAC) a'r Institute of European Finance.
Mae staff academaidd yn gwneud gwaith ymgynghorol ac ymchwil ar lefel uchel yn gyson i sefydliadau allanol, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y DU. Mae eu hymchwil yn cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd amlwg ac mae eu llyfrau a'u hadroddiadau ymchwil yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
Am fwy o fanylion gweler y tudalen Cyhoeddiadau a Chanlyniadau Ymchwil; neu i gael blas ar beth o'r ymchwil y mae staff yn gweithio arni ar hyn o bryd, edrychwch ar ein Papurau Gwaith.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Cynhelir yr ymarfer REF nesaf yn 2021. Bydd Ysgol Busnes Bangor yn cyflwyno i'r unedau canlynol:
- UoA 17 - Business and Management Studies
Cewch ragor o wybodaeth yn ein tudalennau ymchwil Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes canolog .
Graddau Ymchwil
Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnal rhaglen dra llwyddiannus i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio am raddau ymchwil PhD neu MPhil, ac rydym yn gallu cynnig goruchwyliaeth yn y rhan fwyaf o feysydd pwnc yn ymwneud â busnes. Mae Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y DU yn cydnabod ein rhaglen PhD am ei rhagoriaeth mewn hyfforddiant gwyddor gymdeithasol. Am wybodaeth bellach ar ein rhaglenni ymchwil a sut i wneud cais, ewch i'n tudalen graddau ymchwil.