

Diwylliant
P’un a ydych yn ymddiddori mewn iaith, cerddoriaeth, celf, crefft, ffilm, bwyd, dawns, dillad neu dreftadaeth, mae rywbeth addas i bawb yn ein rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau, sy’n anelu at gyflwyno diwylliant Tsieina a chydweithio diwylliannol ar draws gogledd Cymru.
Mae ein digwyddiadau cyhoeddus yn cynnwys gweithgareddau megis caligraffeg, torri papur, perfformiad cerddorol, tai qi a phaentio barcutiaid, ac enwi ond ychydig. Rydym hefyd yn cynnig gweithdai diwylliannol i grwpiau cymunedol ac ysgolion y gellir eu haddasu i gydfynd â gwahanol ofynion.
Mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar Tsieina fodern a chlasurol, gan ddathlu cyfoeth treftadaeth ddiwylliannol y wlad dros dri mileniwm a mapio hyn yn erbyn safbwyntiau Cymreig, Ewropeaidd a Gorllewinol. Mae ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Bangor yn adeiladu ar y gweithgaredd hwn, yn arbennig mewn adrannau fel Busnes, Y Gyfraith, Cerddoriaeth, Ieithoedd a Diwylliannau Modern, Ieithyddiaeth, Addysg ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth.
Hefyd cynrychiolir poblogaeth ethnig hynod amrywiol a diwylliannol gyfoethog Tsieina, gan gynnwys 56 grŵp ethnig cydnabyddedig y wlad, ac archwilio agweddau ar ddiwylliant ac iaith sy’n unigryw i’r rhain mewn perthynas â’n diwylliant hynafol a bywiog yma yng ngogledd Cymru.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod, ewch i'n tudalen Beth sydd Ymlaen?, neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael gwybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost. I gael gwybodaeth am gyrsiau iaith Tsieinëeg neu weithgareddau ymchwil, ewch i'n tudalennau Dysgu ac Ymchwil.