Fy ngwlad:
Maes pwnc UG Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Graddau Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Israddedig

Ym Mhrifysgol Bangor, mae troseddeg yn ymarferol, yn cael effaith, ac wedi'i chysylltu'n ddwfn â'r byd go iawn. Mi fyddi’n archwilio achosion troseddu, cyfiawnder ac adsefydlu trwy fentrau byd go iawn ac yn ennill profiad ymarferol trwy gyfleoedd lleoliadau. Gyda chefnogaeth cymuned glos a staff arbenigol, mi fyddi’n graddio'n barod i lunio dyfodol sy'n gwneud gwahaniaeth.

Ar y dudalen hon:
Ein Cyrsiau mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Darganfyddwch y cwrs Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol i chi

Cyfraith Droseddol - LLB (Anrh)
Datblygwch sgiliau cyfreithiol a sgiliau eiriolaeth, ennill profiad yn y llys a dod i ddeall y system gyfreithiol. Dewch i ddatrys problemau cymhleth gydag ymarfer moesegol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd cyfreithiol amrywiol.
Cod UCAS
M212
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol - BA (Anrh)
Ymchwiliwch i’r berthynas gymhleth rhwng cymdeithas, trosedd a chyfiawnder.
Cod UCAS
LM39
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithoedd Modern a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol - BA (Anrh)
Dadansoddwch droseddu trwy lens amlieithog. Cyfunwch ieithoedd â throseddeg a chyfiawnder troseddol ac archwilio safbwyntiau ac ymchwil diwylliannol.
Cod UCAS
R807
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol - BA (Anrh)
Dewch i archwilio cymhlethdodau troseddu. Dadansoddwch batrymau troseddu, archwiliwch strategaethau atal, ac ewch ar drywydd cyfiawnder cymdeithasol.
Cod UCAS
M930
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith gyda Throseddeg - LLB (Anrh)
Dewch i ddeall rôl y gyfraith mewn trosedd. Dadansoddwch ymddygiad troseddol, archwiliwch strategaethau atal a dewch i ddeall y system gyfiawnder.
Cod UCAS
M1M9
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Tegwen Parry

PROFFIL MYFYRIWR Tegwen Parry - Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae Tegwen Haf Parry yn fyfyrwraig hŷn ac yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Mae hi'n astudio gradd mewn 'Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol'.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Lisa Sparkes - Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Llun thuumbnail o Lisa Sparkes - Darlithydd
Fideo: Lisa Sparkes - Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

[0:00]

Helo, enw fi ydi Lisa Suzanne Sparks a dwi'n darlitho mewn

[0:04]

Troseddeg a Cyfiawnder Troseddol yn Prifysgol Bangor.

[0:07]

Efo myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf da ni'n sbïo mwy tuag at y theori o Droseddeg so pam mae unigolion yn neud be ma nhw yn neud

[0:15]
pam maen nhw yn troi at droseddu pan da ni’n gwybod ei fod yn erbyn y gyfraith? Da ni hefyd yn sbïo mwy tuag at

[0:22]

yr heddlu, y gwasanaeth prawf, carchar a'r gosb wedyn ond hefyd sbïo ar sut alla

[0:30]

ni helpu unigolion mynd yn ôl i fen i'r gymuned ar ôl bod yn garchar

[0:34]

efo pwnc troseddeg mae yn gymaint o bethau da ni'n trafod

[0:39]

fel dwi'n son y flwyddyn gyntaf mae yn fwy pam mae rhywun yn neud pethau o’n yn yr ail a trydedd flwyddyn dyma lle mae myfyrwyr yn cael

[0:45]

dewis pethau maen nhw eisiau dysgu, yn yr ail flwyddyn da ni yn sbïo

[0:51]

lladdwyr cyfresol a da ni'n sbio ar pam ma nhw yn neud be ma nhw yn neud be sydd wedi digwydd yn eu bywyd nhw

[0:57]

I achosi nhw droi, hefyd da ni yn sbio ar y gosb a be sydd yn digwydd wedyn. .

[1:04]

Da ni hefyd yn sbio ar derfysgaeth un o'r pethau ffefryn fi i siarad am

[1:08]

a da ni eto yn sbio ar pam ma nhw yn neud be ma nhw yn neud ond eto ar yr effaith dim jest ar y wlad

[1:15]

ond ar y byd a thramor. Mae'r pwnc yn rhywbeth pwysig i'r gymuned, mae'r pwnc

[1:21]

da ni'n siarad am troseddu trwy'r adeg

[1:26]

da ni yn eistedd a siarad dros banad neu wrth gerdded lawr y stryd, da ni'n gweld o bob dydd yn y cyfryngau mae o

[1:35]

yna drwy'r adeg, felly mae yn bwysig deall pam ma pobl yn neud be ma nhw yn neud, a sut allwn ni gefnogi'r bobl yma. Hefo Prifysgol Bangor

[1:45]

ma na gymaint o bethau i neud yma, peth gyntaf ydi'r adeilad crwydro rownd yr adeilad

[1:52]

a sbio pa mor brydferth ydi o, ond hefyd tu allan i'r brifysgol ar un ochr mae'r mynyddoedd a'r ochr arall mae'r môr

[2:01]

Ma na gymaint o bethau all myfyrwyr neud yn yr amser tu allan i'r brifysgol, ma na rhywbeth i neud

[2:07]

bob dydd, mynd i Llanberis efo

[2:10]

llyfr da ag eistedd a chymryd pethau i mewn neu os ydych eisiau rhywbeth awyr agored mae yna bethau fel caiac a padl-fyrddio popeth ar gael ar stepen drws

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.