Helo bawb, fy enw i yw Natasha! Rwy'n 20 oed, ac rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn astudio Gwyddorau Meddygol.
Yn fy amser rhydd, rwy'n mwynhau gwau, peintio, dod o hyd i leoedd bwyta newydd, a gwylio ffilmiau. Yn ddiweddar, rwyf wedi derbyn yr her rhedeg 'Couch to 5k' ac yn treulio'r rhan fwyaf o'm boreau neu nosweithiau yn y gampfa. Yn ystod y dydd, cewch hyd i mi yn llyfrgell y Prif Adeilad neu Pontio. Os gwelwch fi o gwmpas mae croeso i chi ddweud helo!
Fel myfyriwr rhyngwladol o Zimbabwe, rwy'n awyddus i gwrdd â myfyrwyr rhyngwladol eraill yn ein digwyddiadau Campws Byw. Fel aelod o dîm Campws Byw, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at helpu i gyflwyno rhaglen ddiddorol o ddigwyddiadau i bob un ohonoch. Edrychaf ymlaen at gyfarfod a chreu atgofion parhaol gyda chi i gyd!