Dwylo yn teipio ar liniadur a dwylo ar lyfr agored
Cwrs newydd, yn amodol ar gael ei ddilysu

Iaith Saesneg ac Astudiaethau'r Cyfryngau Israddedig - Mynediad: Medi 2022/23 & Medi 2023/24

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cymhwyster BA
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Delwedd o'r gair 'English' mewn geiriadur

Darllen mwy: Iaith Saesneg

O astudio Iaith Saesneg, cewch gyfle i ddysgu am strwythur gramadegol y Saesneg (e.e., sut y caiff geiriau a brawddegau eu ffurfio), sut y caiff ystyr ei gwneud, ei dehongli a'i hymestyn dros ddisgyrsiau cyfan, sut y caiff seiniau eu ffurfio, eu cynhyrchu a'u deall, a sut mae defnydd iaith yn amrywio ymhlith siaradwyr a grwpiau a sut mae'n newid dros amser yn ogystal ag ennill gwybodaeth o faes cysylltiedig ieithyddiaeth ac astudiaeth wyddonol o iaith.  

Myfyriwr wrth ddesg gyda ffôn yn ysgrifennu

Darllen mwy: Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Mae pob un o'n rhaglenni cyfryngau yn cyfuno astudiaethau academaidd â phrofiadau ymarferol, sy'n golygu y byddwch chi'n ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddatblygu eich creadigrwydd.

Myfyrwyr yn cymdeithasu y tu allan i Pontio

Darllen mwy: Saesneg

Mae Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn cwmpasu Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithyddiaeth. Bydd astudio Iaith Saesneg yn eich cyflwyno i'r offer a'r dulliau a ddefnyddir i archwilio a disgrifio'r holl agweddau hynny ar y Saesneg a mwy, a hynny’n systematig a thrylwyr. Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth drylwyr o destunau llenyddol, theori, hanes a beirniadaeth. Mae Ieithyddiaeth, fel y gwyddorau oll, yn cynnwys astudiaeth systematig o'r patrymau a'r rheoleidd-dra a geir mewn data lleferydd ac iaith. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?