Myfyrwyr yn cymdeithasu y tu allan i Pontio

Saesneg

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

Pam Astudio Saesneg?

Bydd ein cyrsiau yn rhoi cyfle i chi astudio amrywiaeth o bynciau, a wnaiff eich galluogi i archwilio a datblygu'ch diddordebau a’ch arbenigeddau.

Bydd ein modiwlau Iaith Saesneg cyflwyniadol ac uwch yn rhoi cefndir sylfaenol cadarn ichi ynghyd â golwg wyddonol bwysig ar natur, strwythur a defnydd iaith, yn ogystal ag ar hanes Saesneg a sosioieithyddiaeth (y berthynas rhwng iaith a chymdeithas).

Fe addysgir ein myfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg gan ymchwilwyr o fri rhyngwladol a byddwch yn treulio amser yn darllen gwaith creadigol a beirniadol wrth baratoi ar gyfer seminarau, gan weithio gyda chyd-fyfyrwyr i ddatblygu a mynegi syniadau. Bydd ein cysylltiadau agos â theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr bywiog yn rhoi digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant.

Dyluniwyd ein cwricwlwm Ieithyddiaeth i gyflwyno myfyrwyr i'r meysydd craidd/sylfaenol mewn ieithyddiaeth (e.e. seineg, morffoleg ffonoleg, cystrawen, semanteg, pragmateg a sosioieithyddiaeth). Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa ar gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain/recordio o safon broffesiynol (ein labordy lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Iaith Saesneg. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Iaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Iaith Saesneg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Iaith Saesneg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Saesneg

Mae gennym gefndir rhagorol o ragoriaeth ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae gennym broffil ymchwil gweithgar ac amrywiol mewn Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i'n darpariaeth dysgu ar bob lefel, gyda'n myfyrwyr yn elwa o staff brwd sy'n gweithio'n arloesol ym maes ymholiadau a datblygiadau academaidd.

Mae cryfderau ymchwil Llenyddiaeth Saesneg yn ymwneud ag amrywiaeth o gyfnodau penodol a meysydd astudio yn cynnwys llenyddiaeth ganoloesol a llenyddiaeth fodern gynnar; hanes y llyfr a chyhoeddi; Ysgrifennu Eingl-Gymreig; llenyddiaeth ramantus a modern. Mae cydnabyddiaeth dda i ansawdd ein hymchwil, sydd gyda'r orau yn y byd, gan ein rhestru yn y 10 prifysgol orau ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yn y wlad am ddwyster ymchwil.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Cysylltu â ni

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?