Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r radd BA (Anrh) Cerddoriaeth (Perfformio) yn cyfuno hyfforddiant yn null conservatoire mewn perfformio offerynnol neu leisiol gydag astudiaethau cerddorol academaidd yn null prifysgol. Mae’n gwrs delfrydol i rai sydd am ddilyn gyrfa fel cerddorion proffesiynol ac mae opsiwn hefyd i archwilio ystod ehangach o lwybrau gyrfaol yn y dyfodol ym maes cerddoriaeth a thu hwnt.
Mae’r cwrs yn manteisio ar hyfforddiant cerddorol ymarferol uwch yng nghyd-destun traddodiadol prifysgol, ac mae cyswllt clos â’n graddau BMus a BA Cerddoriaeth. Bydd hanner eich credydau ym mhob blwyddyn o’r cwrs mewn perfformio offerynnol neu leisiol (hyfforddiant unigol, ensembles a datblygiad proffesiynol); bydd yr hanner arall mewn astudiaethau cerddorol academaidd.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae’r addysgu'n tyfu allan o berfformio, ymchwil ac ymarfer creadigol y staff, y mae llawer ohono'n rhagorol yn rhyngwladol a gyda’r gorau yn y byd o ran ansawdd.
- Mae’r adnoddau o’r radd flaenaf ac yn ddiweddar cafwyd buddsoddiad o £2.5 miliwn yn yr offer a’r cyfleusterau addysgu a buddsoddiad o £480 o filoedd yn y stiwdios Cerddoriaeth, a bellach mae yno bum piano mawr Steinway a dau Bösendorfer.
- Cynigir addysg cyfrwng Cymraeg fel opsiwn ym mhob pwnc cerdd ar bob lefel.
- Yn ogystal ag astudiaethau perfformio, mae hyblygrwydd yn y rhaglenni gradd, sy’n fodd i’r myfyrwyr feithrin eu cryfderau.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Saif yr adeilad Cerddoriaeth yng nghanol y Brifysgol. Mae’n gartref i’r Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio. Darperir yr addysgu trwy gyfuniad o wersi perfformio un-i-un gyda cherddor proffesiynol, hyfforddiant grŵp ar gyfer cerddoriaeth siambr ac ensembles, seminarau, darlithoedd a thiwtorialau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Cynlluniwyd y raddd Cerddoriaeth (Perfformio) BA (Anrh) i hyfforddi cerddorion mewn sgiliau ymarferol uwch yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth eang ac arbenigol o repertoires cerddorol, ac i ddatblygu eich sgiliau fel meddyliwr beirniadol annibynnol.
Mae o leiaf hanner y modiwlau ym mhob blwyddyn yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel perfformiwr. Cewch hefyd ddewis modiwlau ychwanegol sy’n ymwneud â pherfformio ac amrywiol opsiynau mewn cerddoleg, cyfansoddi, addysgeg cerddoriaeth ac iechyd a llesiant.
Byddwch yn dysgu sgiliau uwch mewn perfformio cerddoriaeth, a byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth hanesyddol ac arddulliol am gyfnodau, repertories a chyfansoddwyr cerddoriaeth y gorllewin ('clasurol' a phoblogaidd), gan gynnwys cerddoriaeth Cymru.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae mynediad i'r cwrs ar sail perfformiad mewn clyweliad a chyflawni’r gofynion mynediad. Rhaid i chi allu dangos safon uwch o gyrhaeddiad technegol a photensial cyffredinol fel perfformiwr i fod yn gymwys ar gyfer y cwrs - ar hyn o bryd safon Gradd 8 (teilyngdod/rhagoriaeth) neu gyfwerth ar yr offeryn cyntaf/llais cyntaf o’ch dewis.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3*. Byddai eich cymwysterau Lefel 3 fel arfer yn cynnwys Cerddoriaeth neu faes pwnc perthnasol arall.
- Lefel A: Cerddoriaeth sydd orau. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau (1080) ystyrir fesul achos
- Mynediad: Mae angen llwyddo
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau T: rhoddir ystyriaeth fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig perthnasol, ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A lawn
- Caiff pwyntiau o arholiadau’r safonau cerdd eu hystyried lle bo'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Cofiwch, mae angen gallu darllen hen nodiant ar gyfer ein holl gyrsiau Cerddoriaeth, Rydm yn annog ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol, neu sydd â chymwysterau ansafonol a/neu brofiad cerddoriaeth perthnasol, i wneud cais. Rydym yn ystyried addasrwydd pob ymgeisydd ar sail teilyngdod unigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Efallai y gofynnir i ymgeiswyr rhyngwladol nad oes ganddynt gymwysterau safonol y Deyrnas Unedig gyflwyno portffolio i ddangos sgiliau sy'n berthnasol i'r cwrs. IELTS 6.0 (5.5).
Ymgeiswyr Hŷn: Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr rhyngwladol nad oes ganddynt gymwysterau safonol y Deyrnas Unedig gyflwyno portffolio i ddangos sgiliau sy'n berthnasol i'r cwrs.
*Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 eraill.
Gwybodaeth am y clyweliad: yn y lle cyntaf gofynnwn i ymgeiswyr a wahoddir i glyweliad gyflwyno recordiad o ddau ddarn cyferbyniol, hyd at tua 15 munud o hyd; yna caiff yr ymgeiswyr eu gwahodd i glyweliad yn y cnawd (neu glyweliad ar ffrwd fyw, trwy drefniant).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Cafodd ein gradd Cerddoriaeth (Perfformio) ei datblygu i helpu’r myfyrwyr ennill ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, ac i gael mynediad i’r proffesiwn cerddoriaeth ac amrywiaeth dda o lwybrau gyrfa eraill.
Mae astudio cerddoriaeth ar lefel gradd yn agor y drws i amrywiaeth o yrfaoedd cerdd a rhagolygon cyflogaeth rhagorol. Yn ogystal â gweithio fel cyfansoddwyr, perfformwyr, cyfansoddwyr caneuon, telynegwyr ac arweinwyr, mae llawer o raddedigion Cerddoriaeth Bangor yn cael swyddi gyda cherddorfeydd, tai opera, neu ganolfannau celfyddydol fel cyfarwyddwyr cerdd, cydlynwyr creadigol, neu weinyddwyr. Mae angen graddedigion cerddoriaeth bob amser yn y cyfryngau a chyda chwmnïau recordio, fel technegwyr, cynhyrchwyr, cynllunwyr rhaglenni ac ysgrifenwyr. Ymhlith y gyrfaoedd posibl eraill mae newyddiaduraeth arbenigol mewn cerddoriaeth, cyhoeddi cerddoriaeth, llyfrgellyddiaeth gerdd a marchnata’r celfyddydau. Mae nifer o'n graddedigion yn academyddion, yn gyfansoddwyr ac yn berfformwyr o fri, ac eraill yn athrawon, ar bob lefel o addysg (gan gynnwys prifysgolion).
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.