Digwyddiad Arbennig: Mappening Cymru – Triptych Perfformiadol
Mappening I Tomen o dail ceffyl – Map o Gymru
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i ail edrych ar arferion celfyddydol dau artist Fluxus arloesol: Artist o Gymru, sef Paul Davies (1947-1993) ac artist a’i wreiddiau yng Ngwlad yr Iâ a’r Almaen, sef Dieter Roth (1930-1998). Deilliodd Maps of Wales, gan Paul Davies, a gyd-grëwyd yn aml gyda’i frawd Peter Davies, o gasgliadau o ddeunyddiau amrywiol, yn cynnwys objet trouvé a thywod graenog arfordir Môn (gweler hefyd ein gwahoddiad i fynd am dro o gwmpas Llyn Alaw lle mae Muddy Map of Wales Davies yn disgwyl i gael ei ailddarganfod). Roedd Roth yn rhannu’r diddordeb hwn mewn defnyddiau rhyfedd, ac roedd ei gasgliadau mwyaf enwog a hynod yn cynnwys caws, salami a bara yn pydru gan greu delwedd o fachlud haul rhamantus. Caiff safiad artistig Davies yn gosod Cymru fel cenedl a diddordeb Roth ym metamoliaeth celf ei rannu gan grŵp o artistiaid cyfoes o ogledd Cymru. Maent yn ein gwahodd i fferm Hendre ym Mhentraeth i gyd-greu Map o Gymru 2022 o domen o faw ceffyl organig. Gwisgwch ddillad priodol. Darperir menig. Mae croeso i chi ddod ag offer fel rhawiau, trywelion, sgŵp neu offer arall. Croeso i deuluoedd.