Diwrnodau Agored Sefydliad Confucius: Ymunwch â ni i ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am chwedl a thraddodiadau gŵyl cychod y Ddraig! Gallwch ymarfer gwneud eich bag bach unigryw o berlysiau a dysgu sut i baratoi Zongzi, sef pryd traddodiadol Tsieineaidd sy'n gysylltiedig â dathliadau’r ŵyl.
Does dim angen cofrestru; galwch heibio a rhowch gynnig arni!