Fy ngwlad:
CELT Conference

Gweithdai I Helpu Plant ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia Athrawon a staff cymorth yr ysgolion sy’n gweithio gyda myfyrwyr ym Mlwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 9.

Cyflwyniad am ein dealltwriaeth o ddyslecsia, gan gynnwys sut mae nodi ac adnabod dyslecsia yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r diwrnod yn archwilio’r anawsterau darllen cyffredin y mae plant yn eu profi a sut mae rhoi sgiliau ymarferol amlsynhwyraidd i blant i’w helpu nhw ddysgu darllen.

Yn neilltuol ar gyfer Blynyddoedd 5/6 ac athrawon uwchradd a staff cefnogi. Bydd ffocws ar y dechnoleg y gallwn ei defnyddio i wella llythrennedd a sgiliau astudio unigolion sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia, sut mae gwneud adnoddau addysgol yn fwy cynhwysol, a’r strategaethau y gallwn eu defnyddio i helpu a gwrthbwyso effeithiau cymdeithasol ac emosiynol negyddol dyslecsia.

Dysgu am anhawster mathemategol a chymhlethdodau problemau sillafu. Caiff atebion ymarferol eu cynnig o ran sut mae mynd i'r afael â'r anawsterau hynny a chefnogi gwell sgiliau sillafu a mathemateg.