Health Equity and Human Rights - Gweithdy Uwch
Gweithdy ALPHAcademy
Cyfres o weithdai ar-lein yn rhad ac am ddim ar ystod o feysydd yn ymwneud ag iechyd ataliol, tegwch iechyd ac arweinyddiaeth
Mae ALPHAcademi yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein yn rhad ac am ddim ar ystod o feysydd yn ymwneud ag iechyd ataliol, tegwch iechyd ac arweinyddiaeth.
Rydym yn croesawu pawb sy'n dymuno mynychu. Ceir credydau am fynychu’r gweithdai hyn hefyd a gellir eu defnyddio tuag at un o'n cymwysterau ôl-radd.
Bydd y cyfranogwyr yn cael eu tywys trwy fodel cam wrth gam i feithrin, ymgorffori a chynnal diwylliant o welliant parhaus yn eu gwasanaeth, tîm neu sefydliad. Defnyddiwyd y model cam wrth gam hwn yn llwyddiannus yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ac mae'n cynnwys y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen ar arweinwyr i weithredu fframwaith newid effeithiol a strategol. Fel rhan o'r hyfforddiant bydd y cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i weithredu'r fframwaith, sy'n croesawu syniadaeth ddarbodus, yn canolbwyntio ar atebion a meddwl trwy systemau, er mwyn gwella eu diwylliant a'u hymarfer yn y gwaith.
Gweithdy Rhagarweiniol 4 Tachwedd 2021 10.00-16.00
Gweithdy Uwch 9 Rhagfyr 2021 10.00-16.00
Gwybodaeth am y gweithdai hyn
Absenoldeb o'r gwaith sy'n deillio o afiechyd meddwl yw achos mwyaf cyffredin absenoldeb salwch tymor hir yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl yr Independent, bydd gweithwyr yn y Deyrnas Unedig yn treulio 3,507 diwrnod yn y gwaith ar hyd eu hoes. Er bod manteision cadarnhaol ar iechyd a lles o waith da, i rai pobl gall gwaith effeithio'n negyddol ar eu lles drwy straen, pryder ac iselder yn gysylltiedig â gwaith, sy’n cyfrif am 44% o afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith a 54% o ddiwrnodau gwaith a gollir.
Bydd y gyfres hon o ddau weithdy yn rhoi trosolwg o iechyd meddwl a gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun COVID-19. Nod y gweithdai yw datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith gwaith ar iechyd meddwl a lles a byddant yn ystyried sut gall cyflogwyr hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y gwaith.
Gwybodaeth am yr hwylusydd
Mae'r Athro Anne Harriss yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol South Bank Llundain a daeth yn Llywydd y Society of Occupational Medicine (SOM) ym mis Mehefin 2020 a dechrau ar ei blwyddyn fel y cyn-lywydd mwyaf diweddar ym mis Mehefin 2021. Mae ganddi brofiad sylweddol ym maes addysg iechyd galwedigaethol, yn fwyaf diweddar fel cyfarwyddwr cwrs rhaglenni nyrsio iechyd galwedigaethol a rheoli iechyd yn y gwaith ym Mhrifysgol South Bank Llundain.
Mae Anne wedi cyfrannu at ddatblygu mentrau iechyd galwedigaethol cyhoeddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn sgil projectau yn Seland Newydd, Slofacia a De Affrica. Hi oedd cynghorydd arweiniol adolygiad systematig diweddar SOM (2020), The Mental Health of Nurses and Midwives in the United Kingdom. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn hybu iechyd meddwl yn y gwaith ac mae wedi cyflwyno hyfforddiant i reolwyr ac eraill mewn sefydliadau mor amrywiol â'r fyddin, y GIG, prifysgolion a’r trydydd sector. Mae wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad nifer o adnoddau SOM COVID-19 sy'n cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr.
Rydym yn argymell bod cyfranogwyr yn mynd i’r gweithdy Rhagarweiniol cyn mynd i’r gweithdy Uwch, ond nid yw hyn yn orfodol - Mae croeso i gyfranogwyr gofrestru i’r naill neu'r llall o'r gweithdai neu'r ddau.