Gweithdy Rhagarweiniol
4 Tachwedd 2021 / 10:00-16:00
Gweithdy Uwch
9 Rhagfyr 2021 / 10:00-16:00
Gwybodaeth am y gweithdai hyn
Bydd y gweithdai hyn yn addysgu’r cyfranogwyr am egwyddorion anghydraddoldeb iechyd a'r berthynas rhwng tegwch iechyd a hawliau dynol. Bydd y gweithdai yn ymdrin ag egwyddorion a diffiniadau o anghydraddoldeb iechyd a sut y gellir eu mesur a'u hastudio. Bydd y gweithdy uwch yn ymchwilio’n ddyfnach i’r modd y mae polisïau ar lefelau cenedlaethol a lleol yn ceisio datrys anghydraddoldebau iechyd a’r defnydd o Asesiadau Effaith ar Iechyd (HIAs) i geisio datrys anghydraddoldebau iechyd. Rhoddir arweiniad ymarferol i’r cyfranogwyr ynglŷn â sut i drosi'r wybodaeth hon i'w hymarfer eu hunain. Bydd y gweithdai yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd o Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddant yn rhoi enghreifftiau go iawn o Gymru a gwahanol rannau o’r byd.
Gwybodaeth am yr hwylusydd
Mae Chris Emmerson yn Gofrestrydd Arbenigol ym maes Iechyd Cyhoeddus. Mae ei brojectau diweddar wedi cynnwys ymchwil i effaith COVID-19 ar gartrefi gofal yng Nghymru ac arwain ar ddatblygu strategaeth hunanladdiad a hunan-niweidio Caerdydd a'r Fro. Cyn ymuno â'r rhaglen hyfforddi, roedd ei brofiad yn cynnwys Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwaith rheng flaen i leihau niwed a digartrefedd yn Llundain a Chaerdydd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru ac mae’n un o'r 11 sefydliad sy'n ffurfio GIG Cymru. Y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y sefydliad yw 'gweithio i amddiffyn a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru'. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni hyn trwy gefnogi'r amrywiaeth lawn o weithgaredd iechyd cyhoeddus, yn cynnwys amddiffyn iechyd, gwella iechyd, datblygu polisi ac ymchwil a gwerthuso.
Rydym yn argymell bod cyfranogwyr yn mynd i’r gweithdy Rhagarweiniol cyn mynd i’r gweithdy Uwch, ond nid yw hyn yn orfodol - Mae croeso i gyfranogwyr gofrestru i’r naill neu'r llall o'r gweithdai neu'r ddau.