Sesiwn Wybodaeth Taith
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol Cymru. Mae rhaglen Symudedd Ymchwil Taith yn cefnogi symudedd ymchwil corfforol allanol a mewnol i gyrchfannau ledled y byd. Mae’r alwad hon yn agored i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (PGR), ymchwilwyr cymwys a staff sy’n cefnogi gweithgareddau ymchwil, gan gynnwys technegwyr a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n benodol i ymchwil. Ar gyfer yr alwad hon, gall cyfnodau symudedd amrywio o 2 ddiwrnod i 5 wythnos.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yr alwad yn cau am 4yp ar 20 Hydref 2026. Rhaid cwblhau pob symudedd erbyn 30 Mehefin 2027.