5 Rheswm i astudio ym Mangor
Ym Mangor, byddwch yn cael eich dysgu gan arweinwyr yn eu maes sydd yn ymroddedig i'ch dysgu. Mae cyfleusterau gwych yma, gan gynnwys Gardd Fotaneg, Amgueddfa Hanes Natur a llong ymchwil.
Mae Campws Byw yn trefnu bob math o ddigwyddiadau ac yn cael ei adnabod am ddod a neuaddau at ei gilydd. Mae digwyddiadau yn cynnwys partïon pizza, gwersi coginio, carioci, cerdded mynyddoedd a mwy.
Mae digon o fariau, caffis a bwytai ym Mangor ac yn yr ardaloedd cyfagos gyda digon o lefydd ar gampws y Brifysgol. Mae Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd yn agored tan yr hwyr ac yn gweini bwyd, diod, a choffi Starbucks. Ym Mhentref y Santes Fair mae Barlows sydd yn cynnig dewis da o fwyd a diod.
Academi yw clwb nos swyddogol myfyrwyr sydd yn cynnal nosweithiau themâu poblogaidd drwy'r wythnos.
Mae Pontio yn ganolbwynt gymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, yma mae sinema a theatr yn ogystal â bar a chaffi.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd gwych mewn amgylchedd naturiol syfrdanol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o Glybiau Chwaraeon, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli, gan gynnwys;
Dros 60 o chwaraeon yn amrywio o rygbi a phêl-droed i sgwba-blymio a phadl fyrddio, a phopeth yn y canol.
Ystod o gymdeithasau, o gymdeithasau academaidd, diwylliannol, hobïau a diddordebau, i weithgareddau awyr agored, cerddoriaeth a drama, a chymdeithasau hapchwarae a gwerthfawrogi.
Mae yna brosiectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr, sydd i gyd yn ffitio i mewn i un o'r categorïau hyn; lles, yr henoed, plant, amgylcheddol, cymunedol, ymgyrchoedd a digwyddiadau.
Rydym yn deall pwysigrwydd profiad myfyriwr llawn ac nid ydym eisiau sefyllfa ariannol unrhyw un i rwystro hynny. Mae gennym amrywiaeth o fentrau costau byw i'ch helpu i gael y gorau o'ch arian.
Mae'r mentrau'n cynnwys;
- Prydau fforddiadwy o ddydd Llun i ddydd Gwener yng Nghaffi Teras a Bar Uno
- Cynhyrchion mislif am ddim
- Mynediad i fannau dysgu cynnes 24/7
- Sesiynau cyllidebu unigol
- Mynediad at gronfa caledi, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau
- Opsiwn llety fforddiadwy
Rydym yn gwarantu ystafell yn ein neuaddau i bob ymgeisydd newydd sy’n dewis Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Mae gennym ddau bentref llety; Santes Fair a Ffriddoedd, ac mae’r ddau o fewn pellter cerdded i holl brif adeiladau a chyfleusterau’r brifysgol felly fyddwch chi byth yn bell o unrhyw beth fyddwch ei angen.
Yn gynwysedig gyda’ch rhent mae:
- Wi-Fi a chysylltiad i'r rhyngrwyd gyda gwifren
- Pob bil (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan)
- Aelodaeth Campfa a Champws Byw
Sgwrsio gyda'n Myfyrwyr
Prosbectws Poced
Rydym yn falch o fod yn un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd o ran cynaliadwyedd. Mae'r Prosbectws Poced yn gyhoeddiad llawer llai na'r prosbectws arferol. Golyga hyn ein bod yn lleihau ein defnydd o adnoddau yn sylweddol wrth barhau i ddarparu'r rhestrau cyrsiau a'r wybodaeth ddefnyddiol sydd eu hangen arnoch wrth wneud eich dewisiadau prifysgol.
Rhagor o Wybodaeth am Fangor
Fel Prifysgol sydd yn darparu cefnogaeth gryf ar gyfer gweithgareddau ymchwil, mae gan Bangor nifer o adnoddau a chyfleusterau arbennigol yn ymwneud â phynciau penodol yn cynnwys llong ymchwil, Sganiwr MRI, siambr hinsoddol, Amgueddfa Hanes Natur a Gerddi Botaneg. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig caeau 3G a glaswellt awyr agored wedi'u hardystio gan FIFA, nifer o neuaddau chwaraeon, campfeydd a chyrtiau sboncen. Mae wal ddringo aml-lwybr, trac Athletau, a llawer mwy yng Nghanolfan Brailsford, campfa o’r radd flaenaf sydd wedi’i lleoli yng nghanol Bangor.
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy'n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig cymorth ychwanegol i gefnogi fyfyrwyr.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amryw o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd.
I fyfyrwyr newydd, mae'r ysgoloriaethau yn cynnwys Ysgoloriaethau Teilyngdod ar gyfer y rhai sydd yn rhagori yn yr Ysgoloriaeth Mynediad.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (£3000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg ac ysgoloriaethau gwerth £500 y flwyddyn (£1500 dros dair blynedd) i fyfyrwyr sy'n astudio 40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn mewn unrhyw bwnc lle mae modd gwneud hynny.
Gallwch gymryd Blwyddyn Profiad Rhyngwladol, lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol, tra'n astudio ar y rhan fwyaf o'n cyrsiau israddedig. Pan fyddwch yn graddio, bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais.
Mae ymuno â chlybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli yn ffordd wych i chi roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl. Mae gan Undeb ein Myfyrwyr ystod eang o rai gwahanol. Os ydych chi'n angerddol am chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant, neu ddiddordebau academaidd, mae yna gymuned yn aros i'ch croesawu.