Cwestiynau Cyffredin

Tocynnau

Gall pob myfyriwr sy'n cofrestru cyn y dyddiad cau brynu dau docyn gwestai. Bydd mynediad i'r seremoni ar gyfer yr holl westeion trwy docyn yn unig. Nid oes angen tocyn ar fyfyrwyr sy'n graddio, rhoddir sedd i chi yn y seremoni cyn belled â'ch bod wedi cofrestru i fynychu'r seremonïau erbyn y dyddiad cau.

Bydd eich tocynnau gwesteion yn aros i chi eu casglu, o'r Ddesg Gofrestru ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau, pan fyddwch yn cofrestru ar y campws ar ddiwrnod eich seremoni.

Dewch â'ch cerdyn adnabod myfyriwr, neu ddull adnabod arall gyda chi.

Rhagwelir y gall fod nifer fach o docynnau ar gael ar gyfer rhai seremonïau unwaith y bydd pob myfyriwr wedi cofrestru. Os oes unrhyw docynnau sbâr ar gael ar gyfer y seremoni, bydd y rhain ar gael ar-lein o(tbc). Bydd unrhyw docynnau pellach a allai ddod ar gael ar gael i'w prynu o'r ddesg gofrestru ar ddiwrnod y seremoni, ar sail y cyntaf i'r felin.

Although tickets to PJ Hall are limited, you can bring additional family and friends with you to your graduation as the ceremonies are also streamed live into the Pontio PL5 (and other lecture theatres should the need arise). Even if your family and friends are unable to secure an additional ticket for the day, they can still enjoy and be part of your special day at your graduation.

Eich Gwis Gŵn

Oes. Er mwyn cael dod i'r seremoni RHAID i chi wisgo'r wisg / gŵn swyddogol. Os nad ydych yn gwisgo'r wisg / gŵn swyddogol ni fyddwch yn medru cymryd rhan yn y seremoni.

Oes. Rhaid archebu eich gwisg / gŵn cyn Graddio i sicrhau y bydd un yno i chi ar y diwrnod. I archebu eich gwisg / gŵn gweler dudalennau gwefan Ede and Ravenscroft.

Byddwch yn casglu eich gwisg / gŵn ar ddiwrnod eich seremoni yn Neuadd Powis. Bydd staff wrth law i'ch cyfeirio at ardal y gwisgoedd.

Amser cychwyn y seremoni Casglu gwisg / gŵn
10:00am 8:00am - 9:30am
2:30pm 12.00pm - 2:00pm

Bydd yr amser y mae'n rhaid dychwelyd eich gŵn yn cael ei gadarnhau gan gyflenwyr y gŵn.

Bydd angen i chi gyflwyno cadarnhad o'ch archeb gyda Ede & Ravenscroft.

Bydd y staff gwisgo wrth law i'ch helpu a sicrhau eich bod wedi gwisgo'n gywir. Er mwyn cysuro ac ymarferoldeb, rydym yn argymell eich bod yn gwisgo top neu grys sy'n rhoi botymau i'r gwddf, gan fod hyn yn ei gwneud yn haws gosod eich cwfl. Mae cyflenwad o afaelion gwallt hefyd yn fuddiol i helpu ddiogelu eich cap.

Diwrnod Graddio

Dylech gyrraedd yn ddigon cynnar ( tua 90 munud cyn ddechrau'r seremoni) er mwyn rhoi digon o amser i'ch hun gwblhau'r cofrestru a chasglu eich gwisg / gŵn heb orfod rhuthro. Cofiwch bydd yn brysur ac efallai bydd yn rhaid i chi giwio ar gyfer cofrestru a gwisgoedd.

Gofynnir i chi fod yn Neuadd PJ 30 munud cyn amser cychwyn eich seremoni.

Eich tasg cyntaf fydd i gofrestru. Bydd y ddesg gofrestru ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau.

Os ydych mewn dyled (ffioedd dysgu) i'r Brifysgol ni fyddwch yn cael tystysgrif ac ni chaniateir i chi fynychu'r seremoni raddio nes bod y ddyled wedi'i chlirio yn llawn.

Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, ond cyn amser cychwyn a drefnwyd ar gyfer eich Seremoni, dylech fynd at y Ddesg Gofrestru ar unwaith lle bydd staff wrth law i'ch cynorthwyo. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl amser dechrau eich Seremoni, ewch i weld staff yn Nerbynfa Adeilad Newydd y Celfyddydau.

Pan fyddwch yn cofrestru byddwch yn derbyn cerdyn adnabod sy'n dangos eich enw a rhif eich sedd, llyfryn graddio a'ch tocynnau gwestai. Cadwch eich cerdyn adnabod yn ddiogel gan y bydd angen i chi ei roi i'r Prif Farsial wrth i chi fynd ar y llwyfan i dderbyn eich gradd yn y Seremoni.

Unwaith byddwch wedi'ch casglu o'ch sedd, a'ch tywys i'r coridor ochr, cewch eich briffio ar y broses.

Ar ôl cyrraedd Neuadd PJ, bydd Marsalls ar gael ar ddrws y Myfyrwyr i'ch cynorthwyo at eich sedd – gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd yn y rhif sedd gywir fel y dangosir ar eich cerdyn adnabod y byddwch wedi'i gasglu pan wnaethoch gofrestru.

Bydd angen eu tocynnau ar eich gwesteion er mwyn cael mynediad i Neuadd PJ, mae seddau ar sail cyntaf i'r felin. I'r rhai sydd wedi gwneud trefniadau ar gyfer gwesteion efo anghenion arbennig, bydd angen i'ch gwestai wneud eu hunain yn hysbys i aelod o staff wrth y drysau, tua 45 munud cyn dechrau'r Seremoni.

Na, mae'n bwysig eich bod yn eistedd yn y rhif sedd a neilltuwyd i chi. Bydd rhif eich sedd yn cael ei argraffu ar eich cerdyn adnabod y byddwch yn ei gasglu wrth gofrestru. Mae'n bwysig eich bod yn cadw'r cerdyn hwn yn ddiogel gan y gofynnir i chi ei roi i'r Prif Farsial cyn i chi fynd ymlaen i'r llwyfan. Os nad ydych yn siŵr ym mha sedd y dylech eistedd, bydd aelod o staff ar gael i'ch cynorthwyo.

Mae angen i chi wisgo'n gywir yn eich gwisg. Sicrhewch fod gennych eich cerdyn adnabod (a roddwyd i chi pan wnaethoch gofrestru), bydd angen i chi roi hwn i mewn i'r Prif Farsial cyn i chi fynd ar y llwyfan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gadael unrhyw gwesteion gyda'ch ymwelwyr cyn i chi ddod i mewn i'r Neuadd, bydd angen eu tocynnau ar eich gwesteion er mwyn cael mynediad.

Sylwch, ar ôl i chi fod ar y llwyfan, byddwch yn dychwelyd I'r un sedd ag yr oeddech yn ei defnyddio ar ddechrau'r seremoni.

Rhaid osgoi cario bagiau llaw, camerâu, ffonau ayyb gyda chi ar y llwyfan.

Yn y seremoni, byddwch yn cael eich “cyflwyno” i'r Is-Ganghellor gan Gyflwynydd a fydd yn darllen eich enw ac enwau eich cyd fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn i'r un radd. Pan gaiff eich enw ei alw, byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan a cael eich cyfarch gan y Is-Ganghellor. Yna byddwch yn dychwelyd i'ch sedd . Pan fydd yr holl dderbyniadau i'ch gradd benodol wedi'u cwblhau, bydd eich gradd yn cael ei derbyn gan yr Is-Ganghellor a'r Canghellor a byddwch yn eistedd wedyn.

Trefn:

  • Bydd Marsial yn eich casglu o'ch seddau pa ddaw'n amser i chi fynd ar y llwyfan i gael eich cyflwyno i'r Is-Ganghellor.
  • Dilynwch y Marsial ac arhoswch yn y drefn y cawsoch eich gosod.
  • Bydd y Cyflwynydd yn darllen enwau pob myfyriwr.
  • Pan fydd eich enw yn cael ei ddarllen ar goedd byddwch yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor.
  • Bydd y Marsialiaid yn aros amdanoch ar ddiwedd y rhes yr ydych yn eistedd ynddi – dylech ddychwelyd i'ch sedd.
  • Pan fydd yr holl dderbyniadau i'ch gradd benodol wedi'u cwblhau, bydd eich gradd yn cael ei derbyn gan yr Is-Ganghellor a'r Canghellor a byddwch wedyn yn eistedd.

Ac eithrio mewn argyfwng, disgwylir i fyfyrwyr aros yn eu sedd trwy gydol y seremoni.

Bydd y seremoni yn para tua 1 awr 30 munud. Bydd myfyrwyr yn eistedd yn Neuadd PJ 30 munud cyn i'r seremoni ddechrau (9.30yb ar gyfer seremonïau 10.00yb, 2.00yp ar gyfer seremonïau 2.30yp).

Bydd rhaglenni coffa wedi eu hargraffu ar gael adeg cofrestru ac maent yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a gwesteion (uchafswm o ddau i bob myfyriwr).

Yndi, dylai Myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu graddio fod yn ymwybodol bod cynulleidfaoedd graddau yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.

Cyhoeddir enwau a graddau (gan gynnwys y rhai sy'n derbyn eu graddau yn absennol) yn y rhaglen.

Mae delweddau Clywedol a Gweledol o'r gynulleidfa ar gael i'r cyhoedd trwy lif by war y we.

Bydd tystysgrifau gradd ar gyfer Myfyrwyr sy'n raddedigion  yn cael eu dosbarthu yn ystod y Seremoni.

 

Ar gyfer rhai Seremonïau, bydd lluniau grŵp yn cael eu trefnu – os yw hyn yn berthnasol yn eich seremoni, byddwch yn cael eich tywys gan staff i'r Cwad mewnol lle bydd y lluniau'n cael eu tynnu. Bydd yr adeiladau ar y campws ar agor ac mae croeso i chi ymweld â'r adrannau yn ystod y dydd. Mae'r rhan fwyaf o'r adrannau yn cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni.

Os ydych yn bwriadau archebu sesiwn dynnu lluniau, nodwch y gellir archebu y rhain naill ai cyn neu ar ôl y seremoni.

Tystysgrifau Gradd

 

Graddedigion 

Bydd tystysgrifau i fyfyrwyr sydd i fod i gwblhau ym mis Mehefin 2023 yn cael eu dosbarthu yn ystod y Seremonïau. Bydd tystysgrifau ar gyfer Myfyrwyr eraill eisoes wedi'u postio i'r cyfeiriad gartref a gofnodwyd ar eich cofnod myfyriwr.

Bydd tystysgrifau yn cael eu postio i gyfeiriad cartref a gofnodir ar eich Cofnod Myfyriwr. Sicrhewch eich bod yn gwirio manylion eich cyfeiriad cyn diwedd eich cwrs i sicrhau ein bod yn ei bostio i'r cyfeiriad cywir.

Gall graddedigion gyda gradd 'Prifysgol Bangor' o 2010 ymlaen gael tystysgrif amnewid o'r gwefan.

Gwesteion ac Ymwelwyr

Cynhelir y seremoni raddio yn Neuadd PJ ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, FFordd y Coleg, Bangor, Gwynedd. LL57 2DG

Rhoddir y tocynnau gwestai i'r Myfyrwyr pan fydd yn cofrestru wrth y Ddesg Gofrestru Graddio cyn y seremoni. Mae mynediad i'r seremoni trwy docyn yn unig ond gall gwesteion ddod draw i fwynhau'r diwrnod gan fod yr holl seremonïau'n cael eu ffrydio'n fyw ar sgriniau mawr ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau.

Oes, caniateir i westeion dynnu lluniau yn ystod y seremoni, fodd bynnag byddem yn gofyn iddynt fod yn ymwybodol o beidio â chuddio golygfa mynychwyr eraill. Dim ond o sedd y gwesteion y gellir tynnu lluniau ac ni chaniateir gwesteion ar y llwyfan.

Bydd staff wrth law i gyfeirio ymwelwyr i'r meysydd parcio. Bydd rhan o faes parcio Prif Adeilad y Celfyddydau yn cael ei gadw ar gyfer deiliad trwydded anabl / y rhai sydd â phroblemau symudedd y gofynnwyd amdanynt eisoes.

Bydd myfyrwyr y mae gan neu gwesteion ofynion arbennig eisoes wedi cwblhau'r adran o'r enw ‘Gofynion Arbennig' wrth gofrestru eu presenoldeb. Gall staff y Brifysgol hefyd gysylltu â chi yn nes at yr amser y seremonïau i gadarnhau trefniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am lety ewch i'r gwefan.

Bydd lluniaeth ar gael ar y diwrnod i'w brynu yn y babell fawr.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?