Fy ngwlad:

Mwy am Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru

Croeso gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru

Mae'n bleser dy groesawu i Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru.

Mae'r Ysgol yn dwyn ynghyd y Gyfraith, Troseddeg, Plismona a Chymdeithaseg i dy helpu i ddeall y berthynas rhwng y gyfraith, cyfiawnder a chymdeithas. 

Image of Hayley Roberts

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr y mae eu hymchwil yn llywio polisïau ac arferion proffesiynol mewn meysydd megis hawliau dynol, diogelwch, mynediad at gyfiawnder a thechnolegau newydd. Drwy'r dull hwn, byddwch yn ymgysylltu â datblygiadau cyfoes ym meysydd y gyfraith a chyfiawnder, gan ddatblygu'r hyder i feddwl yn feirniadol, dadansoddi materion cymhleth a ffurfio eich safbwyntiau eich hun.

Cei ddysgu gan arbenigwyr y mae eu hymchwil yn llywio polisi ac ymarfer proffesiynol, gan gynnwys mewn meysydd megis hawliau dynol, diogelwch, mynediad at gyfiawnder a thechnolegau newydd. Drwy’r dull hwn, byddi’n ymgysylltu â materion a datblygiadau cyfoes o ran y gyfraith a chyfiawnder, wrth feithrin yr hyder i feddwl yn feirniadol, dadansoddi materion cymhleth a datblygu dy safbwyntiau dy hun.

Credwn fod addysg ragorol yn cyfuno trylwyredd academaidd â phrofiad ymarferol. Byddi’n cael dy gefnogi i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad a fydd yn sylfaen i dy yrfa yn y dyfodol. P’un a wyt yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes y gyfraith, cyfiawnder troseddol, plismona, gwasanaeth cyhoeddus, polisi neu ystod eang o broffesiynau eraill, byddi’n graddio â sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a datrys problemau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr. Cei hefyd gyfleoedd i roi dy ddysgu ar waith drwy fentrau megis ein Clinig Cyngor Cyfreithiol arbennig, a thrwy bartneriaethau â sefydliadau proffesiynol, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a'r Gwasanaeth Prawf.

Byddi’n ymuno â chymuned gefnogol a chynhwysol, a bydd staff yn gweithio’n agos gyda thi i gefnogi dy ddatblygiad ac i dy annog i gyflawni dy botensial. Mae astudio ym Mangor yn golygu y byddi yng nghanol gogledd Cymru, mewn Prifysgol sydd wedi gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, sefydliadau proffesiynol a gwasanaethau cyhoeddus ers 1884. Mae'r cysylltiadau hyn yn rhoi’r cyfle i ti ennill profiad, meithrin rhwydweithiau a deall effaith dy astudiaethau yn y byd go iawn.

Mae dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu y byddi’n cael cyfleoedd i ddysgu mewn amgylchedd dwyieithog ac elwa ar gefnogaeth staff Cymraeg eu hiaith, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol dwyieithog Cymru.

Dyma gyfnod cyffrous i fod yn rhan o Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru. Cymera gip ar ein rhaglenni israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil, i weld y cyfleoedd sydd ar gael i dy helpu i gyflawni dy uchelgais.

Dr Hayley Roberts, Pennaeth yr Ysgol

Archwilia ein Meysydd Pwnc

Meysydd Pwnc Israddedig

Dyma'r meysydd pwnc israddedig sydd ar gael o fewn yr ysgol:

UG Subjects

Dyma'r meysydd pwnc israddedig sydd ar gael o fewn yr ysgol:

Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dyma'r meysydd pwnc sydd yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig trwy ddysgu o fewn yr ysgol:

ol-raddedig

Dyma'r meysydd pwnc sydd yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig trwy ddysgu o fewn yr ysgol:

Meysydd Pwnc Ymchwil Ôl-raddedig

Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y meysydd pwnc canlynol o fewn yr ysgol:

Ymchwil

Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y meysydd pwnc canlynol o fewn yr ysgol:

Prif Adeilad y Celfyddydau

Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored - dyma'r ffordd orau i weld beth sydd gan Brifysgol Bangor i'w gynnig.