Tirlun Ystad dan Fygythiad: Parc Penrhos
Mae Parc Gwledig 200 erw Penrhos ger Caergybi yn Ynys Môn wedi bod yn amwynder cyhoeddus poblogaidd dros ben ers iddo agor yn y 1970au. Fodd bynnag, yn 2013 dadorchuddiodd cwmni datblygu eiddo preifat gynllun i droi’r parc gwledig hwn yn barc gwyliau gyda 500 o gabanau, bwytai, bariau, siopau a phwll nofio trofannol. Rhoddodd Cyngor Sir Ynys Môn ganiatâd cynllunio yn 2016. O fis Mai 2026, mae’r datblygwr sy’n berchen ar y tir wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ond mae eu gweinyddwr wedi rhoi’r tir yn ôl ar y farchnad ac wedi gwneud cais am ymestyn y caniatâd cynllunio. Mae’r grŵp ymgyrchu Achub Parc Gwledig Penrhos Caergybi wedi bod yn brwydro yn erbyn y cynigion o’r cychwyn cyntaf, ac yn cael eu cefnogi yn eu hymdrechion gan Elusen Cefn Gwlad Cymru. Mae eu hymgyrch wedi canolbwyntio ar eu pryderon dilys iawn ynghylch mynediad cyhoeddus cyfyngedig i’r dirwedd hudolus hon, sy’n ffurfio rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Mae pryderon mawr hefyd am yr effaith ar fioamrywiaeth ac ecoleg y parc, sy’n gartref i amrywiaeth o anifeiliaid, adar a chwilod, gan gynnwys gwiwerod coch, heb sôn am y ffaith ei fod yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Safle Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol. Ond wyddech chi fod Parc Gwledig Penrhos yn meddiannu hen stad Penrhos? Mae Penrhos o arwyddocâd arbennig i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gan fod ein partneriaid Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn gyfrifol am archif yr ystâd. Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio tirwedd yr ystâd sydd wedi goroesi ar lawr gwlad a sut y byddai’r cynigion yn cael effaith andwyol ar werth treftadaeth a diwylliannol y safle arbennig hwn.
Hanes Ystad Penrhos
Ym 1553, rhoddwyd y tir hwn ar Ynys Gybi i John ap Owen; ef a gododd y tŷ cyntaf ar y safle ac a'i sefydlodd fel prif drigfan yr ardal. Roedd gan deulu Owen achau nodedig y gallent eu holrhain yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg, ond dim ond trwy briodasau manteisiol y llwyddasant i sicrhau eu dyfodol a'u cyfoeth. Un ohonynt oedd priodas Robert Owen ag Anne Wynn – chwaer ac etifeddes y Canghellor Edward Wynn (1681–1755) o Fodewryd – ym 1695. Priodas arall oedd honno rhwng etifeddes y teulu Owen, Margaret (bu farw 1816), a Syr John Stanley (1735–1807) ym 1763.
Prif gangen teulu Stanley oedd Iarlliaid Derby, ond roedd Syr John Stanley yn perthyn i gangen lai a oedd wedi'i lleoli yn Alderley yn Swydd Gaer. Disgrifiwyd y gangen hon o'r teulu fel rhai "amrywiol, amlochrog, ac annisgwyliadwy eu ffyrdd" ac yn llawn "cymeriadau diddorol". Roeddent yn amlwg ym myd llywodraeth, addysg a'r clerigwyr, i gyd ar lefel genedlaethol. Yn dilyn priodas Margaret a John, sefydlodd teulu Stanley eu hunain fel aelodau amlwg o'r uchelwyr ym Môn, a chwaraeasant ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu porthladd Caergybi i fod y prif borthladd fferi i Iwerddon. Mae Dr Gareth Huws wedi ysgrifennu cofnod blog hynod ddiddorol ar gyfer gwefan Holyhead: Stories of a Port, sy'n rhoi cipolwg ar gyllid teulu Stanley yn y flwyddyn 1823. Roeddent yn ennill swm sylweddol o arian o ystâd Penrhos, sef £3,391 mewn rhent gan eu 271 o denantiaid yn nhref Caergybi a £4,851 gan denantiaid mewn rhannau eraill o Fôn. Mae Dr Huws yn egluro sut y defnyddiwyd y rhan fwyaf o'r arian hwnnw i dalu symiau ariannol i aelodau amrywiol o'r teulu. Yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ystod ac ar ôl ehangu porthladd Caergybi ac adeiladu'r ffordd rhwng Llundain a Chaergybi, cynyddasant eu hincwm ymhellach drwy osod tir yr ystâd ar brydles i gyrff llywodraethol amrywiol. Arhosodd Penrhos ym meddiant teulu Stanley tan 1947, pan gafodd ei werthu a'i rannu'n nifer o ddarnau.
Rhwng 1927 a 1977, adneuodd aelodau amrywiol o deulu Stanley bapurau’r ystâd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Erbyn hyn, mae casgliad Llawysgrifau Penrhos yn cynnwys cyfanswm rhyfeddol o 5,687 o ddogfennau sy'n dyddio o 1430 i 1972; mae'n adnodd eithriadol. Penrhos oedd testun Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn 2019, pan draddododd Dr Gareth Huws bapur o’r enw ‘Penrhos: Powerful women and the curious tale of a Knight, a Lord and an Honourable’.
Adeiladau'r ystâd
Dymchwelwyd prif dŷ Penrhos yng nghanol yr ugeinfed ganrif, felly beth yn union sy'n weddill ar y safle heddiw? Wel, yn union wrth ymyl gweddillion y tŷ mae'r hen iard wasanaeth, sydd yn weddol gyflawn. Roedd waliau'r iard hon – sydd â chilfachau amddiffynnol ar y brig a thyllau saethu – yn cuddio gweithgareddau domestig, megis golchi a sychu dillad, paratoi bwyd, a derbyn nwyddau, rhag y golwg. Mae tŵr sgwâr â pharapet amddiffynnol yn dominyddu'r iard; roedd hwn yn cynnwys yr ystafell laeth, yr ystafell olchi a'r ystafell arfau. Ym mhen pellaf yr iard, ceir adeilad addurnol bach ar ffurf twr crwn gyda gwaelod ar oledd, a elwir yn Dŵr y Gannwyll ('Candle Tower'); ymddengys mai ei brif bwrpas oedd cuddio'r iard wasanaeth rhag y gerddi ffurfiol cyfagos. Fodd bynnag, y nodwedd amlycaf sydd wedi goroesi – a'r rhan sy'n meddiannu'r arwynebedd mwyaf – yw cyfadeilad y Fferm Gartref (Home Farm). Yn ddiddorol, mae'r cyfadeilad hwn hefyd yn cael ei ddominyddu gan dŵr sgwâr â pharapet amddiffynnol, sef Tŵr y Beili (Bailiff’s Tower), a oedd yn cynnwys llety i weision gwrywaidd. Mae'r holl strwythurau a grybwyllwyd uchod – yr iard wasanaeth, Tŵr y Gannwyll, cyfadeilad y Fferm Gartref a Thŵr y Beili – wedi'u rhestru fel adeiladau Gradd II.
Beth gall yr adeiladau hyn dweud wrthym am yr ystâd, yn unigol ac ar y cyd? O safbwynt pensaernïol, mae cysondeb cryf rhwng yr adeiladau hyn, gyda’u nodweddion tebyg i gastell – fel gwaelodion ar oledd, muriau â chilfachau, a thyllau saethu cul. Mae bron fel pe bai’r tyrau i gyd – yr un yn y cwrt gwasanaeth, Tŵr y Gannwyll a Thŵr y Beili – yn 'siarad' â’i gilydd. Credir bod yr holl adeiladau hyn wedi’u codi gan John Stanley, Barwn 1af Stanley o Alderley (1766–1850), yn ystod degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae hyn yn dangos ei fod wedi ymrwymo’n llwyr i wella golwg gyffredinol yr ystâd. Gwyddom fod John wedi ail-lunio ac ail-ddyfeisio’r prif dŷ drwy roi arddull Gothig iddo – gan ychwanegu tyrau bach a muriau â chilfachau – rhwng 1801 ac 1808; ar y pryd, daeth yn hysbys fel ‘Castell Penrhos’, ac adeiladwyd holl adeiladau’r ystâd hyn ar yr un pryd. Yn absenoldeb y prif dŷ, mae adeiladau’r ystâd sydd wedi goroesi yn rhoi syniad i ni o sut olwg oedd ar y prif dŷ yn y gorffennol. Mae llyfr Adelaide Lubbock (née Stanley) (1906–1981), People in Glass Houses: Growing up at Government House, a gyhoeddwyd ym 1978, yn rhoi cipolwg ar ei phrofiad o ymweld â chartref y teulu yn Penrhos yn ystod ei hieuenctid, yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Disgrifiodd Gastell Penrhos fel “plasty cerrig llwyd helaeth ac afreolaidd”, ac roedd yr holl adeiladau a strwythurau hyn yn estyniad o hynny. Yn ail, mae’r adeiladau hyn yn rhoi cipolwg ar sut roedd yr ystâd yn gweithredu o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithgareddau domestig a chynhyrchu bwyd.
Un o ychwanegiadau mwy trawiadol John Stanley at y parc ym Mhenrhos oedd trac rasio preifat a elwid yn ‘Penrhyn Quillet’. Cododd hefyd adeilad bach i wylio’r rasys, gydag ardal eistedd dan do ar y gwaelod a llwyfan gwylio uwchben, y gellid cyrraedd ato drwy risiau carreg. Credir bod y ‘Stand Betio’ neu Y Tŵr Pydredig (‘The Rotten Tower’), fel y’i gelwid ar adegau gwahanol, yn rhan o’r gwaith datblygu a wnaed rhwng 1801 ac 1808, ac mae hefyd wedi’i restru fel adeilad Gradd II. Mae’n rhoi cipolwg i ni ar ddiddordebau a gweithgareddau hamdden y teulu.
Yn ogystal, gall y strwythurau sydd wedi goroesi dweud wrthym sut y gadawodd unigolion a chenedlaethau gwahanol eu hôl ar yr ystâd. Roedd yr Anrhydeddus William Owen Stanley (1802–1884) yn fab i John Stanley. Yn ddiddorol, ef oedd yr iau o efeilliaid, ac er i'w efaill hŷn etifeddu ystâd Alderley a'r teitl, etifeddodd yntau Penrhos, lle bu'n byw drwy gydol ei oes. Ar ôl etifeddu'r ystâd ym 1850, dechreuodd wneud gwelliannau yn syth. Ychwanegodd Ystafell Dderbyn ac Ystafell Fwyta newydd at y Castell, a gwnaeth hefyd addurno'r tu allan. Er bod y tŷ wedi diflannu, mae digon o dystiolaeth ar y safle o hyd o sut y rhoddodd ei stamp personol ar yr ystâd, fel yr arysgrifau ‘W. O. S.’ Credir mai ef oedd yn gyfrifol am y Tŵr Dŵr pedwar llawr sy'n edrych dros ardd gaeedig yr ystâd; mae'n debyg iddo gael ei adeiladu i storio dŵr at ddibenion garddio. Mae'r tŵr wedi'i ddylunio yn null clochdy eglwys, gyda bwtresi croeslinol ym mhob cornel ac agoriad â phen crwn a llafnau awyru ar y brig. Mae'r cymeriad eglwysig yn sicr yn ei wahaniaethu oddi wrth yr ychwanegiadau cynharach a oedd yn dynwared arddull castell.
Ystad arfordirol
Nodwedd amlycaf ystâd Penrhos oedd ei hagosrwydd at y môr. Mae'r parc yn rhan o arfordir Ynys Gybi ac mae traethau bach i'w gweld yno a fan ac acw. Un o'r adeiladau mwyaf nodedig yw'r batri gynnau – strwythur amddiffynnol ar siâp llythyren D gyda wyth agoriad ar gyfer saethu allan i'r môr – a godwyd tua 1808 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Defnyddiwyd y safle i hyfforddi'r 'Anglesey Sea Fencibles' a Milisia Môn, yn bendant tan y 1860au, ac mae'n debygol iddo gael ei ddefnyddio fel man gwylio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'r strwythur hwn, sydd hefyd wedi'i restru fel adeilad Gradd II, yn dangos pryder y teulu Stanley am ddiogelwch.
Mae llyfr Adelaide Lubbock yn rhoi darlun byw o blentyndod ar ystâd wledig ger y môr, gan ddisgrifio sut ‘nad oedd ond cam byr o’r ardd, trwy’r coed, i’r môr gyda’i draethau bach yn llawn cregyn’. Mae hi’n sôn sut ‘roedd y plant yn treulio’r rhan fwyaf o’r dyddiau haf hir ar draeth cysgodol a elwid yn Draeth y Bathdy (Bathing House Beach)’. Byddai’r nyrsiau yn mynd â’r plant i lawr at y tŷ cychod – sydd bellach yn adfail – lle byddent yn padlo, yn adeiladu cestyll tywod, yn chwilio am gregyn ac yn pysgota am berdys. Fodd bynnag, nid atgofion hapus yn unig oedd yno: ym 1817, boddwyd Elfrida – yr ieuengaf o unarddeg o blant John Stanley – ar draeth Penrhos yn ddwy oed, ynghyd â’i gweision. Mae’n amlwg bod y môr yn rhan annatod o hanes cymdeithasol yr ystâd hon.
Gerddi a Choetir
Nid adeiladau a strwythurau yn unig sydd wedi goroesi o gyfnod yr ystâd tirfeddiannol: mae olion gerddi ffurfiol a choetir helaeth i’w gweld hefyd, ac mae’r rhain i gyd yn cael eu trafod yn erthygl Glynis Shaw ar gyfer Bwletin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Ymhlith nodweddion pensaernïol y gerddi ffurfiol mae cloc haul ar bedestal ac amrywiol fylchau bwaog yn yr ardd. Mae Shaw yn disgrifio sut y cynhaliwyd nifer o bartïon gardd ym Mhenrhos yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, gan groesawu tenantiaid a ffrindiau, ysgolion Sul yr eglwys, addysgwyr ac ymgyrchwyr y Blaid Ryddfrydol. Yn amlwg, roedd gerddi Penrhos yn ofod lle’r oedd teulu Stanley yn ymarfer eu haelioni a’u dylanwad gwleidyddol.
Yn ôl Shaw, plannwyd y coed cynharaf sy'n goroesi ym Mhenrhos rhwng 1731 a 1733, hynny yw, cyn i deulu Stanley gyrraedd. Fodd bynnag, crëwyd y brif blanhigfa rhwng 1801 a 1812 gan Margaret Stanley (née Owen) tra oedd hi'n weddw. Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cadw casgliad o lythyrau a gyfnewidiwyd rhwng Margaret a'i mab, John Thomas Stanley, Barwn cyntaf Stanley; mae'r rhain yn disgrifio sut y plannodd hi filoedd o goed, gan gynnwys ynn, ffawydd, derw, sycamorwydd, ffir, criafol a gwern. Mae Dr Gareth Huws yn egluro sut y cludwyd llawer o'r coed ifanc hyn – os nad y rhan fwyaf ohonynt – o ystâd Winnington Syr John yn Swydd Gaer. Byddai cychod gwastad-waelod yn eu cludo i lawr Afon Weaver ac ymlaen ar hyd Afon Mersey i Lerpwl, lle byddai llong yn eu cludo i Gaergybi. Ymddengys bod rhai rhywogaethau wedi'u plannu'n strategol, fel y ffawydd a oedd yn cysgodi'r tŷ a'r gerddi rhag gwyntoedd cryfion y môr. Wrth ddisgrifio cyfraniad ei fam, ysgrifennodd John Thomas Stanley ei bod hi wedi "ehangu'r gerddi, plannu llawer iawn o goed, a chreu Paradwys fach mewn gwlad bron mor hyll a diflas ag y gall y llygad ei gweld".
Effaith y Cynlluniau
Fel y mae gwaith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi ei bwysleisio dro ar ôl tro, nid oedd plastai yn bodoli ar ben eu hun: roeddent yn rhan o rwydweithiau a oedd yn cynnwys llawer o adeiladau, strwythurau a gerddi eraill. Yn union fel y dogfennau yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, mae'r adeiladau, y strwythurau a'r gerddi hyn yn ddogfennau hanesyddol ynddynt eu hunain, a gellir dysgu cymaint ohonynt. Mae Penrhos yn enghraifft ragorol o dirwedd ystad lle mae'r prif dŷ wedi diflannu ond lle mae tirwedd ehangach yr ystad wedi goroesi bron yn gyflawn, ac mae'n haeddu cael ei chynnal a'i chadw. Er bod saith adeilad rhestredig yno, nid yw rhai strwythurau – fel y Tŵr Dŵr a phorthdy sgwâr bach wrth fynedfa'r parc – wedi'u diogelu. Nid oes gan y dirwedd hon statws diogelu statudol; ac er roedd Cadw yn ystyried ychwanegu Penrhos at Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru yn 2023, ni ddigwyddodd hynny erioed.
Byddai'r cynnig i droi'r parc gwledig yn barc gwyliau gyda 500 o fythynnod, bwytai, bariau, siopau a phwll nofio trofannol yn niweidiol i gymeriad tirwedd yr ystâd hon. Pe bai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu, byddent yn arwain at greu 'sgwâr marchnad' newydd, yn llawn siopau a chaffis, ar safle'r gerddi ffurfiol yng nghanol y parc. Fel y dangoswyd, mae gan adeiladau a strwythurau'r ystâd sydd wedi goroesi werth grŵp enfawr; byddai'r cynlluniau'n peryglu'n gydlyniad y tirwedd ystâd, y berthynas rhwng yr adeiladau, a'r lleoliad ehangach yn ddifrifol. Efallai mai'r agwedd fwyaf syfrdanol ar y cynigion yw'r bwriad i dorri 27 erw o goedwig aeddfed a hynafol. I ddyfynnu Adelaide Lubbock: 'Roedd gan Penrhos naws hudolus y gallai hyd yn oed y rhai lleiaf dychmygus ei theimlo'. Credwn yn gryf, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei weithredu, y byddai naws hudolus arbennig Penrhos yn cael ei cholli am byth.
(Gan Dr Bethan Scorey, gyda diolch i Dr Gareth Huws am ei gyfraniad)
Ffynonellau a Darllen Pellach
- Huws, Gareth, ‘Hanes Hynod Melltith Boneddiges’, Hanes Llafar, 2021, Casgliad y Werin Cymru.
- Huws, Gareth, ‘Holyhead: Paying Rent in 1823’, Holyhead: Stories of a Port, 20 Ionawr 2019.
- Lubbock, Adelaide, People in Glass Houses (Melbourne: 1977).
- Richards, Thomas, 'STANLEY (TEULU), Penrhos, Môn’, Y Bywgraffiadaur Cymraeg, 1959.
- Shaw, Glynis, ‘Penrhos’, WHGT Bulletin, Rhifyn 83 (Gaeaf 2023), tt.1–8.