Neuadd Powis
Mae Neuadd Powis, ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ar agor o 8.30am tan 3.30pm ac yno cewch de, coffi a sudd oren Masnach Deg am ddim.
Mae amrywiaeth helaeth o fyrbrydau cartref ar gael i'w prynu gan gynnwys cawl, salad, brechdanau, paninis a chacennau.
Caffi'r Teras
Wedi ei lleoli ar lawr isaf Prif Adeilad y Brifysgol, mae Caffi'r Teras ar agor o 10:30yb tan 3:30yh yn cynnig prydau cartref poeth, cawl cartref a brechdanau, paninis, byrbrydau a diodydd.
Caffi Cegin
Wedi ei lleoli ar lefel 2 adeilad Pontio, mae Cegin ar agor o 8.30yb - 6yh ac yn cynnig prydau poeth, bagels, wafflau catref a dewis o gacenau.
Bar Ffynnon
Ar llawr gwaelod adeilad Pontio, mae Ffynnon ar agor o 11yb - 11yh ac yn gwerthu diodydd a byrbrydau.
Barlows
Wedi ei lleoli ym mhentref y Santes Fair, mae Barlows ar agor o 10yb - 10yb ac yn gwerthu diodydd poeth a byrbrydau.
Bar Uno
Mae Bar Uno, ym mhentref Ffriddoedd, ar agor o 11yb ac yn cynnig coffi Starbucks yn ogystal â bwydlen helaeth o brydau a byrbrydau cartref poeth trwy gydol y dydd a dewis o de a choffi Masnach Deg a diodydd o'r bar.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bar Uno ar 01248 388888 neu anfonwch e-bost at baruno@bangor.ac.uk
Siop Myfyrwyr y Ffriddoedd
Ar agor 8yb-8yh ac wedi'i leoli gyferbyn â Bar Uno.
Mae'r siop ar gyfer myfyrwyr sy'n byw ym Mhentref Ffriddoedd ac ymwelwyr. Mae'n gwerthu amrywiaeth eang o fwydydd, diodydd poeth ac oer, byrbrydau, papurau newydd a chylchgronau ac anrhegion o'r Brifysgol.