- Bydd angen i Lysgennad Digidol ddarparu isafswm un eitem y gellir rhannu bob wythnos. (Mae un eitem yn golygu post ar Facebook/Instagram/Twitter/LinkedIn neu bob un).
- Rhaid i chi fod yn barod i bostio unrhyw gynnwys a’i wneud yn gyhoeddus i’r diben hwn ar eich cyfrif eich hun fel y gellir ei rannu gan y Brifysgol.
- Dylai cyfraniadau fod yn arddull arferol y Llysgennad Digidol, ac ni ddylent gynnwys unrhyw ddeunydd amhriodol e.e. iaith anweddus, gweithgarwch anghyfreithlon, torri rheolau. (Mae croeso i chi greu cyfrif myfyriwr arwahan os hoffech gadw’ch proffil personol yn hollol breifat.)
- Caiff yr holl gyfraniadau eu cymeradwyo gan y Tîm Cyfathrebu ac ni ellir gwarantu y caiff y deunydd ei ddefnyddio pob tro / neu cânt eu defnyddio rhywdro arall.
- Rhaid i’r Llysgenhadon Digidol gytuno i’w cyfraniadau gael eu defnyddio gan Adran Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata’r Brifysgol ar gyfer dibenion marchnata (e.e. mewn fideos marchnata Prifysgol Bangor a chyhoeddiadau eraill).
- Gellir rhannu cyfraniadau â thrydydd parti i ddibenion marchnata e.e. The Student Room, WhatUni ayb.
- Byddwch yn derbyn £10.65 am pob bost i gydnabod eich cyfraniad i’r cynllun Llysgennad Digidol.
- Mae Llysgennad Digidol yn benodiad am semester cyfan.
- Efallai y cewch eich gwahodd i 'gymryd drosodd' cyfrif cyfryngau cymdeithasol swyddogol Prifysgol Bangor am daliad untro o o leiaf £25.
- Er mwyn cael eich talu gan y Brifysgol, mae’n ofynnol i chi gofrestru ar y System Gweithiwr Achlysurol a bydd rhaid i'ch dogfennau adnabod cael eu gwirio gan aelod o staff. Mae modd i chi gofrestru yma: Dewiswch ‘Cyfathrebu a Marchnata Brand’ fel yr adran. Bydd hyn yn galluogi i'n staff wirio eich dogfennau, fel arall gall fod oedi gyda’ch cais.
- Bydd angen i chi gael rhif Yswiriant Gwladol i dderbyn taliad.
- Rhaid anfon eich cais am daliad erbyn y dyddiad a nodir.
Gwybodaeth bwysig ynghylch taliadau:
Er mwyn i ni allu eich cyflogi fel Llysgennad Digidol, mae’n rhaid i chi gofrestru ar system Gweithiwr Achlysurol y Brifysgol a bydd rhaid i ni weld y manylion canlynol o flaen llaw:
- Myfyrwyr DU: pasbort neu dystysgrif rhif Yswiriant Cenedlaethol a thystysgrif geni (copïau gwreiddiol)
- Myfyrwyr yr UE: pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol
- Myfyrwyr rhyngwladol: pasbort yn dangos fisa neu gerdyn biometrig a phasbort
Os nad oes gennych y dogfennau uchod, yna yn anffodus, ni allwn eich cyflogi.
Bydd rhaid i chi ddod â'r dogfennau hyn i'r Adran Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu, llawr 1af (uwchben Cymraeg i Oedolion), Stryd y Deon neu ar-lein dros Teams ar amser a drefnwyd o flaen llaw.