Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig ystod eang o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn cydnabod y gweithgareddau allgyrsiol sy'n cael eu cyflawni gan fyfyrwyr. Mae modd i fyfyrwyr ennill pwyntiau tuag at y Wobr drwy gyflawni gweithgareddau megis gwirfoddoli, mynychu gweithdai neu fod yn aelod gweithgar o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr.
Mae'r Wobr ar agor i bawb a gall bod o fantais wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Lleoliadau gwaith
Mae profiad gwaith yn bwysig er mewn sicrhau swydd ar ôl graddio. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Mae'r cymorth a ddarparwyd yn cynnwys cefnogaeth mewn unrhyw leoliad gwaith neu interniaeth hoffech eu cymryd.
O Fedi 2019 ymlaen, gall myfyrwyr israddedig newydd ar y rhan fwyaf o'n cyrsiau, ddewis cymryd rhan mewn lleoliad gwaith gwirfoddol ym Mlwyddyn 2, sy'n bythefnos o hyd (isafswm o 70 awr), neu gymryd rhan mewn Blwyddyn Lleoliad Gwaith sy'n flwyddyn allan rhwng Blynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs gradd.
Byddwch yn derbyn cefnogaeth yn ystod y cyfnod yma gan aelod penodol o staff o fewn eich Ysgol Academaidd, a chaiff y profiad gwaith ei gydnabod yn briodol. Mae'r lleoliadau yma'n cynnig cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr o weithio mewn maes sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu wrth i chi drefnu'r lleoliad.
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud y lleoliad bythefnos o hyd yn cael y cyfle i'w gynnwys yn eu Hadroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) ac fe fydd y rhai sy'n dewis gwneud y Flwyddyn Lleoliad Gwaith yn cael 'gyda lleoliad gwaith' ar eu teitl gradd.
Blwyddyn Lleoliad
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol Academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Mae myfyrwyr blaenorol a phresennol wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o ddarparwyr lleoliadau, yn amrywio o gwmnïau preifat i sefydliadau addysgol, elusennau, awdurdodau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae myfyrwyr wedi cael profiad gwaith gyda chwmniau fel Santander, Siemens Healthineers, Coutts , Venue Cymru, WRU, BBC Cymru, Zip World a Gen2.
Mae ein myfyrwyr sydd wedi ymgymryd â blwyddyn leoliad wedi tynnu sylw at sut mae'r profiad wedi eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau amhrisiadwy, hyder a phrofiad bywyd ynghyd â gwybodaeth a sgiliau pwnc sydd wedi rhoi hwb i'w cyflogadwyedd.
Sylwch: O 2021/22 bydd y ffi yn £1,350 ar gyfer yr holl leoliadau a blynyddoedd rhyngwladol.
Cynllun Interniaeth
Mae'r Brifysgol yn rhedeg cynllun interniaeth ddwywaith y flwyddyn, sy'n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig weithio mewn maes proffesiynol ynghyd â dysgu sgiliau perthnasol ac ennill arian. Mae amrywiaeth o interniaethau ar gael, o ymchwil meddygol i farchnata. Mae interniaeth yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr.
Gweithio tra'n astudio
TARGETconnect ydy biwro cyflogaeth myfyrwyr y Brifysgol. Mae'n cynnig y cyfleoedd canlynol:
Swyddi i raddedigion - Lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol
Gwaith llawn a rhan-amser, parhaol a dros dro
Lleoliadau gwaith ac interniaethau
Cyfleoedd gwirfoddol
Cyfleoedd GO Wales
I weld y cyfleoedd yma ar TARGETconnect mae angen i chi fewngofnodi gyda’ch cyfrif myfyriwr / alumni.