Fe wnaeth ymchwil, dan arweiniad Dr Darren Parker, Darlithydd mewn Bioleg Esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor, astudio genynnau sawl rhywogaeth o Timema (math o bryfyn pric), nad ydynt wedi atgenhedlu'n rhywiol ers miliwn o flynyddoedd - y cyfnod anrhywiol hiraf y gwyddys amdano ar gyfer unrhyw bryfyn.
Mae'r pryfed pric ddi-adain yn frodorol i orllewin pell yr Unol Daleithiau ac yn atgenhedlu trwy fath o enedigaeth wyryfol lle mae embryo yn datblygu o wy heb ei ffrwythloni, gan osgoi'r angen am ffrwythloni gwrywaidd. Mae'r ffenomen hon, a elwir yn parthenogenesis, yn digwydd yn naturiol mewn rhai rhywogaethau anifeiliaid.
Oherwydd bod rhai rhywogaethau o Timema wedi atgenhedlu heb ryw am gyhyd, roedd y gwyddonwyr y tu ôl i'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn PNAS, yn disgwyl y byddai'r system sydd wedi esblygu ar gyfer cydbwyso mynegiad genynnau ar y cromosomau rhyw wedi erydu dros amser. Ond canfuwyd nad oedd hyn yn wir.
Esboniodd Dr Darren Parker, “Mae gan wrywod a benywod nifer gwahanol o gromosomau X; mae gan wrywod un (XY) ac mae gan fenywod ddau (XX). Canlyniad hyn yw bod angen cydbwyso mynegiad genynnau yn gyfartal rhyngddynt. Mae rhywogaethau wedi esblygu ystod eang o fecanweithiau a elwir yn 'gyfadferiad dos' i wneud yn union hyn. Ond beth sy'n digwydd pan nad oes angen y mecanweithiau hyn ar gyfer rhannu genynnau gwrywaidd a benywaidd yn gyfartal mwyach? Dyna'r cwestiwn yr oeddem wedi bwriadu ei ateb.
“Dyma’r union sefyllfa a geir mewn pryfed pric sy’n atgenhedlu’n anrhywiol. Gan fod y benywod yn atgenhedlu heb ffrwythloni gan wrywod, nid oes angen cydraddoli mynegiad genynnau. Drwy ymchwilio i fynegiad genynnau mewn gwrywod prin, canfu ein hastudiaeth, yn hytrach na dadfeilio fel yr oeddem yn ei ddisgwyl, fod mecanweithiau cyfadferiad dos yn parhau i fod yn gwbl weithredol er na fu eu hangen ers dros filiwn o flynyddoedd.
Mae'r canfyddiadau'n herio tybiaethau hirhoedlog ynghylch pa mor gyflym y mae systemau biolegol yn dirywio pan nad ydynt bellach o dan bwysau esblygiadol cryf ac yn ein hatgoffa nad yw esblygiad bob amser yn cael gwared ar yr hyn nad oes ei angen mwyach.