Modiwl LCF-2040:
Sgiliau Iaith Ffrangeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Jonathan Ervine
Amcanion cyffredinol
- Atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth y myfyrwyr o ramadeg a geirfa Ffrangeg.
- Datblygu sgiliau cyfieithu i'r iaith darged ac ohoni, a sgiliau trin Ffrangeg ysgrifenedig.
- Datblygu sgiliau llafar a gwrando.
- Dod yn gyfarwydd â geirfa sy'n ymwneud â'r flwyddyn dramor sydd i ddod, a chyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol eraill.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn yn gweithio tuag at gyrraedd lefel B2/C1 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Cynnwys cwrs
Gan adeiladu ar sylfaeni cwrs iaith y flwyddyn gyntaf, bydd dosbarthiadau ar sgiliau ysgrifenedig, gwrando a deal, cyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg, a sgiliau llafar yn datblygu hyfedredd a rhuglder yn Ffrangeg. Bydd gwersi sgiliau iaith ysgrifenedig yn cynnwys adolygu pwyntiau gramadegol, aralleirio, cyfieithu i'r Ffrangeg ac ysgrifennu traethodau, ac yn canolbwyntio ar iaith newyddiadurol, lenyddol a phroffesiynol. Bydd y dosbarthiadau gwrando a deall yn defnyddio ffynonellau dilys oddi ar y teledu ac ati, ac yn cynnwys tasgau trawgrifio ac aralleirio. Mae'r deunyddiau iaith a ddefnyddir yn ymwneud â'r cyfryngau, cyflogadwyedd, y celfyddydau a materion cymdeithasol a diwylliannol. Bydd sgiliau llafar yn datblygu rhuglder mewn gwahanol gyweiriau. Bydd pob dosbarth yn datblygu'r sgiliau y bydd ar y myfyrwyr eu hangen yn eu trydedd flwyddyn pan fyddant mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg
Meini Prawf
trothwy
40-49%: Gwybodaeth gyfyngedig o eirfa a gramadeg, a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio ystod o destunau penodedig.
da
50-69%: Gwybodaeth dda o eirfa a gramadeg, a gallu da i gyfieithu a thrin amrywiaeth o ddeunyddiau testunol. Gallu da ar lafar ac wrth wrando.
ardderchog
70+%: Gwybodaeth ragorol o eirfa a gramadeg, a gallu ardderchog i gyfieithu a thrin testunau, gyda dealltwriaeth gadarn o gywair. Gallu rhagorol ar lafar ac wrth wrando.
Canlyniad dysgu
-
Bydd myfyrwyr wedi ymestyn eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o bynciau sy'n ymwneud â diwylliannau a chymdeithasau Ffrangeg a Ffrengig.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Ffrangeg ysgrifenedig mewn amrywiaeth o gyweiriau.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Ffrangeg llafar mewn amrywiaeth o gyweiriau.
-
Bydd myfyrwyr yn dangos hyfedredd cynyddol mewn gwrando a deall.
-
Bydd myfyrwyr yn dangos y gallu i gyfieithu testunau yn fedrus gan sicrhau bod yr arddull a'r cywair yn cyd-fynd â'r gwreiddiol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Listening comprehension | 15.00 | ||
Translation into French | 20.00 | ||
Written Exam (2 hours) | 30.00 | ||
Oral exam | 20.00 | ||
Resume - Summary | 15.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | 3 awr gyswllt yr wythnos + 1 awr cyfrwng Cymraeg. |
66 |
Private study | 334 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- N2R1: BA Business Management and French year 2 (BA/BMFR)
- N1R1: BA Bus Stud with French year 2 (BA/BSFR)
- NR1C: BA Business Studies/French year 2 (BA/BUSSF)
- T111: BA Chinese and French with German year 2 (BA/CHFG)
- T112: BA Chinese & French with Italian year 2 (BA/CHFI)
- T104: BA Chinese and French year 2 (BA/CHFR)
- T113: BA Chinese & French with Spanish year 2 (BA/CHFS)
- T114: BA Chinese and German with French year 2 (BA/CHGF)
- T117: BA Chinese & Italian with French year 2 (BA/CHIF)
- T120: BA Chinese & Spanish with French year 2 (BA/CHSF)
- WR91: BA French and Creative Studies year 2 (BA/CSTFR)
- W8R8: BA Creative Writing and Modern Languages year 2 (BA/CWML)
- QR3C: BA English Language and French year 2 (BA/ELFR)
- R101: BA French year 2 (BA/F4)
- R1N2: BA French with Business Management year 2 (BA/FBM)
- R1NC: BA French with Business Studies year 2 (BA/FBS)
- 06CD: BA French and English Literature year 2 (BA/FEL)
- R901: BA French & German with Italian year 2 (BA/FGI4)
- R913: BA French & German with Spanish year 2 (BA/FGS4)
- RR13: BA French/Italian(4 years) year 2 (BA/FI)
- R1R3: BA French with Italian year 2 (BA/FI4)
- R102: BA French with International Experience year 2 (BA/FIE)
- R919: BA French & Italian with Spanish year 2 (BA/FIS4)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 2 (BA/FPIE)
- R1C8: BA French with Psychology year 2 (BA/FPSY)
- NR41: BA French/Accounting year 2 (BA/FRA)
- NR31: BA French/Banking year 2 (BA/FRB)
- T108: BA French with Chinese year 2 (BA/FRCH)
- MR91: BA French/Criminology&Crim'l Just year 2 (BA/FRCR)
- R1W8: BA French with Creative Writing year 2 (BA/FRCW)
- LR11: BA French/Economics year 2 (BA/FREC)
- R1P5: BA French with Journalism year 2 (BA/FRJO)
- R1N1: BA French with Marketing year 2 (BA/FRMKT)
- R1P3: BA French with Media Studies year 2 (BA/FRMS)
- R1R2: BA French with German year 2 (BA/FRWGER)
- R1R4: BA French with Spanish year 2 (BA/FS4)
- RR14: BA French and Spanish year 2 (BA/FS4#)
- PR31: BA Film Studies and French year 2 (BA/FSFR4)
- R914: BA French & Spanish with German year 2 (BA/FSG4)
- R915: BA French & Spanish with Italian year 2 (BA/FSI4)
- R1R5: BA French with Spanish (with International Experience) year 2 (BA/FSPIE)
- RR12: BA German/French year 2 (BA/G4F)
- R2R1: BA German with French year 2 (BA/GERWFR)
- R12R: BA German and French with International Experience year 2 (BA/GFIE)
- R922: BA German & Spanish with French year 2 (BA/GSF4)
- RV11: BA History/French year 2 (BA/HFR)
- R926: BA Italian & Spanish with French year 2 (BA/ISF4)
- QR11: BA Linguistics/French year 2 (BA/LFR)
- QR15: BA Linguistics and French with International Experience year 2 (BA/LFRIE)
- Q3R8: BA Linguistics and Modern Languages year 2 (BA/LML)
- N5R1: BA Marketing with French year 2 (BA/MKTFR)
- NR51: BA Marketing and French (4 year) year 2 (BA/MKTFR#)
- N5R6: Marketing with French with International Experience year 2 (BA/MKTFRIE)
- R800: BA Modern Languages year 2 (BA/ML)
- R807: BA Modern Languages & Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/MLCCJ)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 2 (BA/MLCYM)
- R801: BA Modern Languages and English Literature year 2 (BA/MLEL)
- R803: BA Modern Languages & Film Studies year 2 (BA/MLFS)
- R804: BA Modern Languages & History year 2 (BA/MLH)
- R802: BA Modern Languages & Media Studies year 2 (BA/MLMS)
- R806: BA Modern Languages & Philosophy, Ethics & Religion year 2 (BA/MLPRE)
- P3R1: BA Media Studies with French year 2 (BA/MSFR)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- W3R8: BA Music and Modern Languages year 2 (BA/MUSML)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 2 (BA/PRF)
- R4R1: BA Spanish with French year 2 (BA/SPFR)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- NBR1: BSc Business Management with French year 2 (BSC/BMFR)
- M116: LLB Law with French (European Experience) year 2 (LLB/LFE)