Modiwl XAC-1035:
Plant a Chymdeithas
Plant a Chymdeithas 2025-26
XAC-1035
2025-26
Ysgol Gwyddorau Addysgol
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Arwyn Roberts
Overview
Ceisia'r modiwl yma roi trololwg o gysyniadau hanesyddol a modern o blentyndod. Dechreua'r gyda chyflwyniad i’r cysyniad o blentyndod, gan gymryd golwg hanesyddol ar ddechrau plentyndod fel yr ydym yn ei adnabod, o’r cyfnod Piwritanaidd pan oedd ‘sbâr y wialen, difetha’r plentyn’ yn llywodraethu drwy’r cyfnodau Goleuedigaeth a Rhamantaidd. Edrychwn ar sut mae plentyndod yn cael ei greu gan gymdeithas yn yr amseroedd hyn gan edrych ar y rhain â llygad modern, gan gymharu disgyrsiau hanesyddol â sut mae plentyndod yn cael ei bortreadu heddiw. Mae rhan olaf y modiwl yn ymdrin ac effeithiau technoleg a'r byd digidol ar blant. Byddwn yn edrych ar y dylanwadau cadarnhaol a negyddol o dechnoleg a'r we ar sut mae plentyndod cyfoes yn cael ei lunio.
Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i herio a dadlau syniadau cryf am blentyndod ac ieuenctid, a gall gynnwys archwiliad o’r cwestiynau a’r pynciau canlynol:
Sut mae ystyron plentyndod ac ieuenctid yn cael eu hadeiladu mewn cymdeithas? Sut mae syniadau am blentyndod ac ieuenctid wedi newid dros amser? Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu portreadu (yn y cyfryngau, o fewn cyd-destunau addysgol) Risg a gwydnwch Stereoteipio rhyw Plentyndod ac ieuenctid fel adegau o ddiniweidrwydd neu wyredd Technoleg a'r byd arlein mewn perthynas â phlentyndod Effeithiau plentyndod digidol
Assessment Strategy
-threshold -(D+) Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r prif ddadleuon a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu digonol i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun.
-good -(B) Gwybodaeth a dealltwriaeth sylweddol o’r prif ddadleuon a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu da i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth dda o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth dda o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun ac effaith hyn ar blant a phobl ifanc.
-excellent -(A) Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r prif drafodaethau a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu eithriadol i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth ardderchog o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth ardderchog o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun ac amrywiaeth effaithiau posib hyn ar blant a phobl ifanc.
Learning Outcomes
- adnabod y ffactorau sy'n peri gofid i oedolion ynghyd a'r buddion posib pan fo plant yn defnyddio technoleg
- dangos a chymhwyso dealltwriaeth wybodus o drafodaethau cymdeithasol a hanesyddol allweddol plentyndod a sut mae plentyndod wedi'i adeiladu gan gymdeithas
- dangos a chymhwyso dealltwriaeth wybodus o effeithiau technoleg digidol ar blant
- deall y cysylltiadau rhwng syniadau damcaniaethol am blentyndod ac ieuenctid â phrofiadau cyfoes ym mywydau plant a phobl ifanc
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Adlewyrchwch ar eich syniadau eich hun am blentyndod a sut maen nhw'n cyd-fynd â'r cysyniad bod Plentyndod yn cael ei lunio'n gymdeithasol
Weighting
20%
Due date
09/10/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Cymharwch a chyferbynnwch blentyndod modern â'r disgyrsiau hanesyddol a drafodir yn y modiwl trwy greu dwy astudiaeth achos
Weighting
30%
Due date
06/11/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Poster anodedig yn amlygu effeithiau Technoleg digidol ar blant
Weighting
50%
Due date
10/01/2024