Modiwl XAC-2033:
Ymchwilio mewn Plentyndod
Research into Childhood 2025-26
XAC-2033
2025-26
School of Education
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Arwyn Roberts
Overview
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y gwahanol fethodolegau a dulliau ymchwil sy'n berthnasol i blant a phobl ifanc. Mae'r modiwl wedi'i gynllunio'n benodol i'ch paratoi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn 3. Mae'n ymwneud â dylunio, cynnal ac ysgrifennu eich prosiect ymchwil bach eich hun yn semester 1 yn ogystal â llunio cynnig ymchwil ar gyfer eich traethawd hir yn semester 2, dan arweiniad a goruchwyliwr prosiect. Byddwch yn gallu dewis y thema ar gyfer eich traethawd hir o blith amrywiaeth o bynciau ymchwil perthnasol a gynigir. Byddwch yn dysgu am y gwahanol ddulliau o gasglu data, yr ystyriaethau moesegol pwysig wrth gynnal ymchwil gyda phlant a phobl ifanc, a sut i ddylunio prosiect ymchwil i brofi eich damcaniaethau. Asesir y modiwl ar sail adroddiad prosiect bach yn semester 1 a’r cynnig ymchwil yn semester 2.
Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol:
•damcaniaethau ymchwil, sgiliau ysgrifennu traethawd hir, a dewis y fethodoleg gywir ar gyfer maes ymchwil y myfyrwyr;
•prif ddulliau casglu data, gan gynnwys dogfennau, ffotograffau, cyfweliadau, astudiaethau achos, grwpiau ffocws, holiaduron a dulliau ethnograffig.
•enghreifftiau o ymchwil y darlithydd ei hun ac o waith arall yn yr Ysgol gan gynnwys profiadau ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol.
•seiliau athronyddol ymchwil, trafod ac egluro natur traethawd hir a chanfod a dewis maes astudio;
•y prif gysyniadau sydd dan sylw wrth lunio’r cwestiynau i’w hastudio a ffurfio rhagdybiaeth.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg a dylunio a chyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil.
-good -(B) Gwybodaeth a dealltwriaeth da o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas a dylunio a chyflwyno cynnig cadarn ar gyfer prosiect ymchwil.
-excellent (A) Gwybodaeth cynhwysfawr a dealltwriaeth dwfn o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas o ystod o ffynonellau, a dylunio a chyflwyno cynnig cytnhwysfawr a chaboledig ar gyfer prosiect ymchwil.
Learning Outcomes
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o gynnwys adroddiad ymchwil da;
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o’r ystod o ystyriaethau moesegol wrth wneud ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc a gallu gwerthuso’r gwahanol ddulliau;
- Arddangos dealltwriaeth o arwyddocâd dulliau ymchwil ansoddol a meintiol;
- Cyflwyno areithiau parod a byrfyfyr yn hyderus ac yn gymwys
- Cynllunio cynnig ymchwil, gan gynnwys dethol dulliau ymchwil priodol, ar bwnc sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
- Gwerthuso damcaniaethau a dadleuon allweddol mewn methodoleg ymchwil a arddangos dealltwriaeth o sut maent yn berthnasol i ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc.
- Trafod yn feirniadol gwahanol ddulliau ymchwil, a gallu adfyfyrio’n feirniadol ar eu cyfyngiadau a’u manteision mewn perthynas ag ystod o gyd-destunau;
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Prosiect Ymchwil
Weighting
50%
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynnig Ymchwil
Weighting
40%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Bangor Oral Presentation Scheme
Weighting
10%