Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Mehefin 2014
Hwb o £1m o’r Undeb Ewropeaidd i Ganolfan Môr Cymru
Bangor University Vice-Chancellor John G Hughes has welcomed the news that the £23.6m SEACAMS project, which it leads, has been given a £1m EU boost. SEACAMS is an EU scheme pioneering collaborative research projects in marine science between business and universities delivered by Bangor University in partnership with Aberystwyth and Swansea Universities. The project is helping to develop the coastal marine economy in Wales and has already worked with more than 60 companies on R&D projects ranging from developing new products to studying marine life to determining management strategies for rising sea levels.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2014
Athro ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd
Mae'r Athro Jo Rycroft-Malone, Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi'i gosod ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd. Un mesur arwyddocaol a phwysig o ymchwil academaidd yw pa mor aml y dyfynnir papurau ymchwil academaidd, neu y cyfeirir atynt, mewn erthyglau academaidd eraill. Mae gwaith Yr Athro Rycroft-Malone yn ymddangos ar y rhestr sydd newydd ei chyhoeddi, y ' Thompson Reuters Highly Cited Researchers 2014 ', sy'n cynrychioli meddyliau gwyddonol mwyaf blaenllaw y byd. Mae'r Athro Rycroft-Malone ymhlith dros dair mil o ymchwilwyr o bob rhan o'r byd sy'n ennill yr anrhydedd drwy ysgrifennu'r nifer fwyaf o adroddiadau. Pennwyd hyn yn swyddogol gan Essential Science Indicators℠ fel papurau y dyfynnir llawer arnynt - gan sefyll ymhlith yr 1% uchaf a ddyfynnir fwyaf am eu maes pwnc a blwyddyn cyhoeddi, a farnwyd gan gymheiriaid i fod o arwyddocâd penodol, ac ennill iddynt nod effaith eithriadol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2014
Perfformiadau agraffiadau gan ymchwiliwr yn y Weriniaeth Tsiec
Roedd gweithiau prin gan Jacobus de Kerle (1531/2-1591), i’w clywed mewn cyngherddau yn Brno (St Leopold, 4 Ebrill) ac ym Mynachdy Rajhrad (6 Ebrill), a’r cyngherddau hynny wedi’u neilltuo i weithiau gan gyfansoddwyr o’r Capel Imperial. Dan arweiniad arbenigol Vladimír Maňas (Prifysgol Masaryk, Brno), bu Ensemble Versus (gyda’r gwesteion Martina Komínková (ffliwt), Richard Šeda (cornetto a ffliwtiau) a Tomáš Lajtkep (tenor a thrombôn bas) yn perfformio motetau Kerle, sef Media vita ac Adoramus te Christe, a’r ddau wedi'u golygu gan Christian Leitmeir, y prif awdurdod ar y cyfansoddwr Ffleminaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014
"Advances In The Study Of Bilingualism"
Newydd – "Advances In The Study Of Bilingualism" Mae'r llyfr hwn yn darparu dull cyfoes i astudio dwyieithrwydd. Mwy o wybodaeth ...
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2014
Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn prawf iechyd ar gefnforoedd ledled y byd
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymuno â gwyddonwyr morol o bob cwr o'r byd ar 21 Mehefin i gymryd rhan mewn project ymchwil byd-eang uchelgeisiol - Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd. Ceir 80% o'r holl fywyd ar y ddaear yng Nghefnforoedd y Byd sy'n ymestyn ar draws mwy na 70% o arwynebedd y byd. Micro-organebau morol sy'n gyfrifol am y ffaith bod cylchredau elfennau'r byd yn rhedeg yn llyfn, ond mae llai na 1% ohonynt yn hysbys. Bydd yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn ymuno a 150 o gyrff ymchwil o Ynys yr Iâ i Antarctica ac o Moreea (Polynesia Ffrengig) i Dde Affrica i astudio a chynnal prawf iechyd ar gefnforoedd y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2014
Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor ar y rhestr fer am Wobr Iechyd ym Mhrydain
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr iechyd bwysig ym Mhrydain sy'n rhoi sylw i bobl a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i hyrwyddo iechyd a lles yng ngwledydd Prydian. Cyhoeddir enillwyr Gwobr Bevan am Iechyd a Lles 2014 mewn achlysur yn Llundain ar 15 Gorffennaf. Rhoddir y wobr gan Sefydliad Bevan a Chymdeithas Aneurin Bevan, gyda chefnogaeth hael gan UNSAIN, y Brifysgol Agored a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2014
Darlithydd WISERD yn trafod patrymau ymfudiad i Gymru ar BBC Radio Cymru
Bu Dr Robin Mann, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac WISERD ym Mhrifysgol Bangor, yn cymryd rhan yn rhaglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru, lle bu’n trafod ymfudiad i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014
Adnabod y mecanweithiau sy'n effeithio ar wahaniaethau rhwng gwenwynau nadredd
Mae brathiadau gan nadredd yn lladd hyd at 90,000 o bobl bob blwyddyn, mewn ardaloedd gwledig tlawd yn y trofannau gan fwyaf. Mae'r nifer hon yn syndod o fawr wrth ystyried bod meddyginiaethau gwrthwenwyn ar gael. Y gwir yw, serch hynny, bod y meddyginiaethau hyn i raddau helaeth yn effeithiol wrth drin brathiadau gan y rhywogaeth nadredd a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu, ond yn aml iawn maent yn aneffeithiol wrth drin brathiadau gan rywogaethau nadredd gwahanol, hyd yn oed rai sy'n perthyn yn agos. Mewn erthygl yn PNAS (Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America doi.10.1073/pnas. 1405484111 ) mae Dr Nicholas Casewell a Wolfgang Wüster o Brifysgol Bangor ynghyd â'u cydweithwyr yn disgrifio'r mecanweithiau sy'n creu'r amrywiadau yng ngwenwynau rhywogaethau sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a hefyd yr amrywiadau sylweddol yn effeithiau'r gwenwynau a geir oherwydd hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014
Celloedd Canser yn dewis y dull "blêr a brysiog"
Prif nodwedd canser yw twf afreolus celloedd wedi ei ysgogi gan beiriant cylch celloedd sydd wedi mynd yn wyllt. Prif gydran y peiriant hwn yw'r ensym Cdc2 cinas. Mae Cdc2 cinas wedi ei reoleiddio'n dynn mewn celloedd normal, mae'r rheolaeth yma ar goll mewn celloedd canser. Mae ymchwil flaengar a wnaed ym Mhrifysgol Bangor yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin wedi darganfod bellach bod Cdc2 cinas gorfywiog nid yn unig yn gorfodi celloedd i luosi mewn ffordd afreolus ond hefyd yn ail-raglennu’r gwaith o drwsio cromosomau sydd wedi torri.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014
Beth sy’n ein rhwystro rhag sefyll i gael ein ethol i’r Cynulliad?
Mae ymchwilwyr yng Ngholeg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi ennill cytundeb ymchwil pwysig gan Fwrdd Taliadau Annibynnol Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i nodi ac ymchwilio i rwystrau a all atal unigolion rhag cyflwyno eu henwau i gael eu hethol i'r Cynulliad.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2014