Academydd o Fangor yn cynnig ateb posibl i gam-werthu gwasanaethau ariannol
Mewn wythnos lle rydym wedi gweld achos arall o gam-werthu gwasanaethau ariannol, a oes yna unrhyw atebion i’r broblem gyson hon yn ymwneud â rheolaeth ariannol? Tra gall y camau diweddar i ddiddymu comisiwn wrth werthu buddsoddiadau manwerthu gynorthwyo i ddatrys y broblem hon, mae erthygl a gyhoeddwyd y mis yma yn y cylchgrawn Financial Services Focus, gan Gyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, yn awgrymu bod angen newid mwy sylfaenol i’r ffordd rydym yn rheoli datblygiad cynhyrchion gwasanaethau ariannol.
Yn yr achos cam-werthu’r wythnos hon, dirwywyd HSBC i £10.5m am werthu polisïau amhriodol i gynorthwyo pobl hŷn i dalu am gostau gofal tymor hir. Drwodd a thro, ystyriwyd bod 74% o’r polisïau a werthwyd yn amhriodol i’r cleientiaid, gan fod isafswm cyfnod y buddsoddiadau’n fwy nag oes ddisgwyliedig y cleientiaid. Roedd y dulliau gwerthu hefyd yn anghyson ac ni roddwyd sylw priodol i anghenion cleientiaid, eu hamgylchiadau treth a’r risgiau roeddent yn fodlon eu hwynebu. Er gwaethaf natur enbyd yr achos hwn, gyda’r polisïau’n cael eu gwerthu i’r cwsmeriaid mwyaf bregus a oedd bron yn 83 oed ar gyfartaledd, nid yw’r math yma o gam-werthu’n anghyffredin gwaetha’r modd.
Yn ôl John Ashton o Brifysgol Bangor ac Ian Dewing o Brifysgol East Anglia, yr ateb i’r broblem hon yw gwneud gwelliannau i’r ffordd y datblygir y cynhyrchion ariannol hyn a’r ffordd y caiff y gwasanaethau ariannol eu marchnata wedyn. Mae llawer o achosion o gam-werthu wedi ymwneud â chynhyrchion hynod gymhleth, lle nad yw’r cwsmeriaid, na hyd yn oed y gwerthwyr ariannol mewn llawer achos, yn deall yn iawn yr hyn sy'n cael ei werthu. Mewn achosion eraill o gam-werthu, mae gwasanaethau ariannol sydd ar gael ers tro wedi cael eu marchnata mewn ffordd hynod amhriodol.
Mae’r erthygl yn gofyn pam nad ydym yn archwilio diogelwch ac effeithlonrwydd cynhyrchion gwasanaethau ariannol mewn ffordd systematig a rheoledig, fel y mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Cynhyrchion Meddygol a Gofal Iechyd yn archwilio diogelwch ac effeithlonrwydd gwasanaethau iechyd yn y DU. Yn y gwasanaethau iechyd, caiff hyder cwsmeriaid yn y triniaethau a roddir iddynt ei atgyfnerthu gan y wybodaeth bod dilysrwydd y therapïau hynny wedi cael ei archwilio’n allanol. A fyddai asesiad allanol tebyg yn werthfawr pan mae iechyd ariannol cwsmeriaid yn y fantol? Argymhellir y gall ystod y swyddogaethau a awdurdodir gan yr FSA gael ei ymestyn i ystyried y gweithwyr hynny sy'n datblygu a marchnata gwasanaethau ariannol. Yn wir, heb reoli ‘cynhyrchion’ yn y ffordd yma, a ydym yn disgwyl gormod oddi wrth gynghorwyr ariannol a chwsmeriaid?
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2012