Diogelu
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Darparu amgylchedd diogel i'w holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol i wneud hynny.
- Darparu amgylchedd sy’n ddiogel rhag niwed i holl aelodau cymuned y Brifysgol cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol i wneud hynny.
- Cefnogi hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gael eu hamddiffyn rhag cam-driniaeth, rhyddid rhag niwed a chael amgylchedd diogel ac iach.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag camdriniaeth neu niwed.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ymdrin â honiadau o gamdriniaeth.
Mae'r adnoddau a nodir isod yn amlinellu dull a chyfrifoldebau'r Brifysgol, yn ogystal â sut mae'r Brifysgol yn ymdrin â datgeliadau diogelu. Mae darpariaeth ddiogelu'r Brifysgol hefyd yn ymestyn i'w threfniadau o dan y Ddyletswydd Prevent, ei hystod o wasanaethau myfyrwyr, a'i hyfforddiant staff parhaus.
Gellir rhoi gwybod am bryderon ynglŷn â phlentyn, person ifanc neu oedolyn agored i niwed trwy glicio'r ddolen isod.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ddiogelu, cysylltwch â'r Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu a Chydymffurfio sy'n Swyddog Diogelu penodedig y Brifysgol, Gwenan Hine: gwenan.hine@bangor.ac.uk, neu Lauren Roberts, Cynorthwyydd Rheoli Digwyddiadau.