Hyfforddiant Staff
Mae'r Gwasanaethau Llywodraethu yn cynnal sesiynau hyfforddi trwy'r flwyddyn academaidd, pob un yn sesiwn hyfforddi annibynnol o tua 1.5 awr, a chânt eu hailadrodd mor aml â phosib fel y gall cymaint ag y bo modd fynd iddynt. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae'n rhaid archebu ymlaen llaw.
Mae'r hyfforddiant yn cael ei gynnal ar-lein ar hyn o bryd trwy Microsoft Teams, er ei fod fel arfer yn cael ei gynnal fel rheol yn ystafell Cledwyn 3, ar lefel islawr y Prif Adeilad y Celfyddydau, Bangor, ac mae wedi'i drefnu trwy gydol y flwyddyn. I sicrhau cysondeb ac at ddibenion amserlennu, mae'n well os gall staff fynd i'r sesiynau a hysbysebir, ond efallai y cynigir hyfforddiant adrannol penodol mewn rhai achosion. Mae sesiynau hyfforddi trwy gyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.
Arweiniad i'r Ddyletswydd Prevent
Mae'r hyfforddiant hwn yn codi ymwybyddiaeth ymhlith staff am y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a'r Ddyletswydd Prevent. Mae'r hyfforddiant yn cysylltu ag arferion a hyfforddiant cyfredol yn ymwneud â diogelu (gweler isod). Mae'n canolbwyntio ar swyddogaeth pob unigolyn i roi sylw i bobl agored i niwed ac unrhyw newidiadau/cynnydd mewn ymddygiad negyddol. Mae'r hyfforddiant hwn yn edrych yn arbennig ar sut y gallai newid mewn ymddygiad fod yn arwydd o ddylanwad grwpiau terfysgol o wahanol ideolegau a chredoau. Mae'n orfodol i'r holl staff fynd i'r hyfforddiant hwn o leiaf unwaith. Dylid gofyn i staff y mae mwy na dwy flynedd ers iddynt fynychu hyfforddiant Prevent i fynychu hyfforddiant eto i sicrhau eu bod wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Sylwadau:
Cafodd y rhai a ddaeth i'r hyfforddiant well dealltwriaeth o gefndir Prevent; arwyddion ymddygiad i gadw golwg amdanynt pan fydd rhywun yn dod yn agored i niwed; beth i'w wneud ynghylch pryderon; tra cafodd enghreifftiau, anecdotau a thrafodaeth dderbyniad arbennig o dda. Mae'r hyfforddiant yn 'procio'r meddwl ac yn eithaf sobreiddiol ar brydiau' ond yn rhoi 'sicrwydd bod y cynllun yn ymwneud yn sylfaenol â diogelu'.
Diogelu Data (GDPR)
Mae'r sesiynau'n cyflwyno staff i'w cyfrifoldebau o ran casglu, rheoli a chael gwared â data personol a sensitif, a gofynion y Ddeddf Diogelu Data 2018. Nid yn unig y mae'r brifysgol yn dymuno osgoi achosion o dorri diogelwch data, a all fod yn gostus iawn i'r sefydliad a'r staff dan sylw, ond gall yr hyfforddiant hwn hefyd leihau faint o wybodaeth sy'n cael ei chasglu a'i phrosesu, yn ogystal â rhoi gwell dealltwriaeth i unigolion o'r ffordd mae gwybodaeth amdanynt hwy eu hunain yn cael ei phrosesu gan sefydliadau a beth yw eu hawliau'n gysylltiedig â hynny. Mae'n orfodol i'r holl staff fynd i'r hyfforddiant hwn o leiaf unwaith.
Sylwadau:
'Ni wnaeth y siaradwr siarad yn nawddoglyd o gwbl gyda'r gynulleidfa eithaf arbenigol a gofalodd bod yr holl gynnwys yn gysylltiedig ag enghreifftiau o fywyd go iawn mewn ffordd ryngweithiol iawn'. Mae'r hyfforddiant hwn wedi bod yn addysgiadol iawn i lawer, ac mae wedi codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch data a chosbau llym am dorri amodau. Mae hefyd wedi newid y ffordd mae pobl yn gweithio, o weithredu polisïau desg glir, 'meddwl am amserlen cael gwared ar ddata pan ydych chi'n DECHRAU project', i sicrhau eich bod yn anfon negeseuon e-bost at y bobl iawn cyn taro 'Anfon'. Mae 'wedi gwneud i mi ystyried rhai cwestiynau nad oeddwn wedi sylweddoli y byddai angen i mi eu gofyn!'
Cyflwyniad i Ddiogelu
Mae'r sesiwn wybodaeth hon i staff y mae eu gwaith yn dod â nhw i gysylltiad ag oedolion a/neu blant agored i niwed. Mae'n trafod deddfwriaeth yn y maes hwn, a bydd yn cynnig arweiniad ar hawliau unigolion agored i niwed a chyfrifoldebau staff, yn ogystal â'r trefniadau i'w dilyn pe bai datgeliadau yn cael eu gwneud gan bobl agored i niwed (am ddigwyddiadau cyfredol a hanesyddol hefyd).
Sylwadau:
Rhoddir gwybodaeth gefndir dda, gwneir defnydd rhagorol o anecdotau a cheir amser i drafod. Cododd y sesiynau ymwybyddiaeth hefyd o faint posibl camdriniaeth a'r angen i roi gwybod am amheuon a datgeliadau.
Uniondeb Ymchwil
Mae angen i ymchwilwyr adfyfyrio ynghylch effaith eu gwaith ar gymdeithas a'r gymuned ymchwil ehangach. Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno’r staff i bolisi newydd y Brifysgol ar uniondeb ymchwil a phum egwyddor allweddol y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil a gyhoeddwyd yn 2012 ac a gefnogir gan brif gyllidwyr ymchwil y Deyrnas Unedig. Mae'r Polisi a'r Concordat yn berthnasol i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol sy'n ymwneud ag ymchwil ar ran Prifysgol Bangor ac fe'u lluniwyd i gynnig safonau a chanllawiau i ymchwilwyr ynglŷn â chynnal ymchwil moesegol o ansawdd uchel.
Trefn Cwynion Myfyrwyr
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi gwybodaeth i staff y gall eu gwaith gynnwys derbyn neu drin cwyn gan fyfyriwr. Mae'r sesiwn wybodaeth yn cynnwys egluro'r drefn, hawliau myfyrwyr, sut i ymateb i gwyn, datrys y mater yn anffurfiol, datrys y mater yn ffurfiol, apeliadau a dyfarniad annibynnol.
Sylwadau:
Ar ôl bod i'r hyfforddiant, mae'r rhai a fu yno yn 'teimlo'n fwy tawel eu meddwl wrth gyfeirio cwynion'. Maent yn gwerthfawrogi'r defnydd o enghreifftiau go iawn ac yn meddwl ei bod yn 'beth da rhannu arfer gorau'.
Gweithdy Ymwybyddiaeth o Ddogfennau
Heddlu Gogledd Cymru sy’n cynnal y gweithdy ar y thema "Ydych chi'n gwybod pwy rydych yn eu recriwtio / cyflogi?" Cefnogir y gweithdy gan y National Document Fraud Unit, ac mae’n berthnasol i unrhyw aelod o staff sy'n gwirio dogfennau i ddibenion adnabod, cydymffurfio a chynnal gwiriadau DBS. Nod y gweithdy yw cynyddu gwybodaeth staff ynglŷn â dogfennau adnabod a'r potensial i'w camddefnyddio. Mae'r gweithdy yn cynnwys cyfle i edrych ar ddogfennau adnabod ffug a dilys a chael gwell dealltwriaeth o'r nodweddion diogelwch a ddefnyddir a sut i adnabod dogfennau ffug.
Sylwadau:
Disgrifiwyd y cwrs fel un 'rhyfeddol' a nodwyd ei fod yn 'gwrs diddorol iawn ac yn sicr mae gen i fwy o ymwybyddiaeth o gymhlethdod y gwaith o lunio pasbortau a rhai o'r pethau i edrych amdanynt wrth drin y dogfennau hyn.' Roedd yr holl rai a fu'n bresennol yn gwerthfawrogi'r elfennau rhyngweithiol, yr ystod o ddogfennau a gyflwynwyd i'w harchwilio, a darparu rhestr wirio i gyfeirio ati yn y dyfodol.
Cysylltu
*** I'r rhai na allant fod yn bresennol yn yr hyfforddiant wyneb yn wyneb, gellir gweld fersiwn fer o'r hyfforddiant GDPR/Prevent ar Blackboard ar gyfer staff Bangor: Cwrs hyfforddi Cydymffurfiaeth (Ultra).
Prevent | Dydd Mercher | 08/03/2023 | 10-11.30 | Teams |
Cyflwyniad i Ddiogelu | Dydd Mercher | 22/03/2023 | 10-11.30 | Teams |
Trefn Cwynion Myfyrwyr | Dydd Mercher | 01/03/2023 | 10-11.30 | Teams |
Uniondeb Ymchwil | Dydd Mercher | 15/03/2023 | 10-11.30 | Teams |
GDPR (diogelu data) | Dydd Mercher | 08/02/2023 | 1.00 - 3.00 | Teams |
I gael rhagor o wybodaeth am y dyddiadau, ac i archebu lle mewn sesiwn hyfforddi, cysylltwch â Colin Ridyard yn Gwasanaethau Llywodraethu: mhsa08@bangor.ac.uk.