Mrs Gwenan Hine
Position | Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethu |
Location | Prif Adeilad, Prifysgol Bangor, Bangor |
Phone | 01248 382413 |
Mae Gwenan yn gyfrifol am gefnogaeth weinyddol ym maes cydymffurfio â'r gyfraith, rheoli risg ac argyfwng, a moeseg. Yn arbennig, mae'n ymdrin â deddfwriaeth yn ymwneud â gwarchod data, rhyddid gwybodaeth, gwybodaeth amgylcheddol, hawliau dynol, hawlfraint, defnyddio meinwe dynol, rhagsylweddion cyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau. Mae ei chyfrifoldebau eraill yn cynnwys:
- Cydlynu materion moesegol, yn cynnwys gweithredu fel ysgrifennydd i'r Pwyllgor Moeseg a'r Pwyllgor Adolygu Moesegol
- Ysgrifennydd i'r Grŵp Tasg Cydymffurfio Cyfreithiol
- Swyddog Gwarchod Data a Rhyddid Gwybodaeth
- Rheolwr Digwyddiadau Argyfwng a chydlynu a rheoli gofynion y polisïau a'r gweithdrefnau Rheoli Argyfwng, yn cynnwys gweithredu fel ysgrifennydd i'r Grŵp Cynlluniau Argyfwng
- Rheoli cofnodion y brifysgol a bod yn gyfrifol am Ganolfan Gofnodion y Brifysgol
- Swyddog Amddiffyn Plant a chydlynu a rheoli gofynion polisi'r brifysgol ar Amddiffyn Plant, a gweithredu fel ysgrifennydd i'r Grŵp Pobl Fregus
- Cydlynu Cofrestru Trwyddedau'r Brifysgol
- Deiliad Trwydded y Ddeddf Meinwe Dynol a chadeirydd Grŵp Cyswllt y Ddeddf Meinwe Dynol