Grant bwysig yn cael ei rhoi i un o raddedigion PhD diweddar yr Ysgol
Mae Philip Walker Jacobs, a enillodd radd PhD yn ddiweddar o'r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, wedi derbyn gwobr bwysig i gymryd rhan yn Sefydliad Haf y National Endowment for the Humanities. Thema'r Sefydliad Haf eleni yw 'Representation of the "Other": Jews in Medieval England' ac fel cynhelir o 13 Gorffennaf tan Awst 2014 yn yr Oxford Centre for Hebrew and Jewish Studies yn Rhydychen. Bydd Dr Jacobs yn cyflwyno gwaith ar 'Artistic Depictions of Joseph the Carpenter in Medieval England' sy'n adeiladu ar ei thesis PhD. Mae Dr Jacobs yn dysgu yn Cape Fear Community College yn Cape Fear, Gogledd Carolina, yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014