Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Sut mae pobl/plant yn datblygu sgiliau cymdeithasol: € 1.5M o nawdd ERC i archwilio'r Niwrowyddoniaeth Wybyddol y tu ôl i ddatblygiad “Ymennydd Cymdeithasol”

Mae pobl yn eu hanfod yn ​​greaduriaid cymdeithasol ac mae ein dealltwriaeth o'r byd yn cael ei ffurfio o'r cychwyn cyntaf gan y rhyngweithio cymdeithasol yr ydym yn arsylwi arno ac yn cymryd rhan ynddo. O ganlyniad, rydym yn rhagori mewn tynnu gwybodaeth o olygfeydd cymdeithasol. Gallwn ganfod yn gyflym os yw dau unigolyn yn cydweithio neu'n cystadlu, yn fflyrtio neu’n cwffio, ac yn helpu neu’n rhwystro ei gilydd. Yn bwysicaf oll, rydym yn dysgu llawer, a hynny’n gyflym, am bobl o arsylwi ar eu rhyngweithio ag eraill – mae hyd yn oed ryngweithio byr yn rhoi cliwiau pwysig i ni am eu personoliaeth, eu galluoedd cymdeithasol a'u hwyliau ar y pryd. Sut mae’r sgìl hynod hwn yn datblygu? Lle mae wedi ei leoli yn yr ymennydd? Sut mae’r math hwn o "canfyddiad rhyngweithio cymdeithasol" yn gysylltiedig â gallu cymdeithasol yn y byd go iawn a dysgu cymdeithasol ar draws datblygiad?

Mae'r rhain yn gwestiynau y mae Dr Kami Koldewyn, niwrowyddonydd sydd wedi ei lleoli yn Ysgol Seicoleg enwog Prifysgol Bangor, yn gobeithio eu hateb, diolch i Grant dechreuol gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC). Trechodd gystadleuaeth gref i dderbyn y grant pwysig hwn ar gyfer project o'r enw "Dod yn gymdeithasol: Canfyddiad Rhyngweithio Cymdeithasol a'r Ymennydd Cymdeithasol Ar draws Datblygiad Nodweddiadol a Annodweddiadol ".  Hwn yw’r eildro y mae grant dechreuol ERC wedi ei ddyfarnu i niwrowyddonydd cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor yn y ddwy flynedd ddiwethaf, a bydd yn cyfrannu ymhellach at sefydlu niwrowyddoniaeth gymdeithasol a gwybyddol fel maes rhagoriaeth ymchwil ym Mangor . Bydd y grant € 1.5M yn caniatáu i Kami gynyddu cyflymder ei hymchwil yn ymchwilio i ddatblygiad canfyddiad cymdeithasol cymhleth a dysgu cymdeithasol a’u seiliau yn yr ymennydd.

Dr Kami KoldewynDr Kami KoldewynEglura Kami: O'r gwaith diweddar, rydym yn gwybod bod llawer o'n dysgu cynnar yn 'ddysgu cymdeithasol'. Mae hyn yn golygu ein bod yn sylwi, yn prosesu ac yn dysgu trwy gyswllt ag eraill yn bennaf. Ond mae plant yn fwy na 'sbyngau cymdeithasol'. Mewn gwirionedd maent yn dysgu’n well gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt na chan bobl nad ydynt yn eu hadnabod neu sydd yn eu barn hwy yn annibynadwy. Gallant wneud y dyfarniadau hyn yn seiliedig ar y rhyngweithio cymdeithasol maent yn arsylwi arno, ac maent yn gwneud hynny. I mi, mae hyn yn golygu er mwyn deall datblygiad cymdeithasol, bod angen i ni hefyd ddeall sut mae rhyngweithio cymdeithasol yn cael ei ganfod a’i ddeall. "

Ychwanega, "Erbyn diwedd y project, rydym yn gobeithio darparu’r darlun mwyaf cyflawn hyd yn hyn o ddatblygiad y systemau ymddygiadol a niwrobiolegol sy'n cefnogi canfyddiad cymdeithasol cymhleth."

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r project Dod yn Gymdeithasol yn defnyddio technegau niwroddelweddu arloesol yn ogystal â llygad-olrhain ac arbrofion ymddygiadol i greu dull newydd, integreiddiol a thrwyadl o ymchwilio i sut mae pobl yn prosesu, yn deall ac yn dysgu oddi wrth ryngweithio cymdeithasol. Mae Kami a’i thîm yn cynllunio projectau fydd yn cynnwys ymchwil delweddu ymennydd hydredol  ac a fydd yn ymchwilio i ddatblygiad mewn poblogaethau nodweddiadol ac awtistig. Tu hwnt i gwmpas gwyddonol y gwaith hwn, gallai’r canlyniadau disgwyliedig fod â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer arfer addysgol a chlinigol.

Mae'r Grant dechreuol ERC yn un o'r grantiau gwyddonol pwysicaf yn Ewrop ac mae cystadleuaeth fawr amdanynt. Eleni, cafodd 325 o 2935 o geisiadau eu hariannu, sef cyfradd llwyddiant o ryw 11%. Bwriad y grant yw rhoi cyfle i wyddonwyr ifanc dawnus adeiladu ac ymestyn eu grŵp ymchwil eu hunain er mwyn cynnal ymchwil annibynnol a mynd ar ôl syniadau arloesol.

Eleni, mae'r Deyrnas Unedig wedi ennill y 2il nifer uchaf o grantiau, ar ôl yr Almaen. Mae Dod yn Gymdeithasol yn un o 59 o grantiau dechreuol ERC yn y Deyrnas Unedig ar draws y gwyddorau ffisegol, y gwyddorau bywyd a’r gwyddorau cymdeithasol ac yn un o 4 o grantiau a roddwyd i wyddonydd yn y Deyrnas Unedig yn y parth ymchwil 'y Meddwl Dynol a’i Gymhlethdod'.

Dilynwch i gael gwybod mwy am Grant Dechreuol ERC yn 2016

Dilynwch i gael gwybod mwy am Kami a'i gwaith

 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • Polisïau
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltiadau’r Coleg
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor