Newyddion: Tachwedd 2020
Mynd i'r afael â gwaddol plastig amaethyddol
Er bod defnyddio plastigau mewn amaethyddiaeth wedi gwella cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd mewn sawl gwlad, mae wedi gadael gwaddol o lygredd plastig ar dir amaethyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2020
Dyfarnu Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2020/21
Dyfarnwyd tair 'Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth' i raddedigion eithriadol 2020 Prifysgol Bangor - Georgina Sidley-Brooks, Olaitan Olawande ac Abi Cousins. Bydd yr ysgoloriaethau, sy'n talu ffioedd llawn y cyrsiau, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent bellach wedi cofrestru ar gyrsiau ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2020