Cyfleusterau TG
Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion gyfleusterau TG tebyg iawn i’r hynny sy’n cael ei gynnig gan Labordai Cyfrifiaduron y Brifysgol. Mae yna ystafell gyfrifiaduron yng Nghraig Mair, Ystafelloedd CM205A a CM308.
Ystafelloedd Cyfrifiaduron Mynediad Agored
Mae gan y cyfrifiaduron yn y labordai mynediad agored yr un meddalwedd a’r rhai sydd ar gael y prif labordy cyfrifiadurol. Ewch I wefan Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth am fwy o fanylion. Gall yr ystafelloedd hyn fod wedi eu harchebu ar rai adegau ar gyfer addysgu. Fel arfer bydd nodyn ar y drws os yw’n cael ei ddefnyddio i’r pwrpas hwnnw a gofynnir i chi barchu’r nodyn a pheidio cerdded i mewn ar yr adegau hyn.
Adrodd Diffygion ac Ymholiadau’r Ddesg Gymorth
Os dymunwch adrodd unrhyw broblemau neu ddiffygion gallwch:
e-bostio helpdesk@bangor.ac.uk neu ffonio 8111.
Caiff eich ymholiad ei nodi a’i basio ymlaen i’r adran berthnasol er mwyn ei ddatrys. Dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o nodi cwynion.
Polisi Defnydd Derbyniol
Caiff defnyddiwr cyfleusterau TG yr Ysgol Gwyddorau Eigion eu hatgoffa o Bolisi Defnydd Derbyniol y Brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r polisi hwn gan wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio er mwyn osgoi cael eich gwahardd rhag defnyddio cyfleusterau TG y Brifysgol.