Cynefino Arholwyr Allanol
Croeso i Cynefino Arholwyr Allanol Prifysgol Bangor.
Cyflwyniadau
Lluniwyd y cyflwyniadau isod i roi golwg gyffredinol i chi o'r sefydliad, polisïau a threfniadau Sicrhau Ansawdd y Brifysgol a swyddogaethau arholwyr allanol.
Croeso gan Christine Jones, Arholwr Allanol profiadol i Brifysgol Bangor
Capsiynau'r Fideo
Helo a chroeso Arholwyr Allanol !
Fy enw i y Christin Jones, ac rwy’n Bennaeth Dros Dro y Sefydliad Addysg a Dyniaethau ym Mhrifysgol Dewi Sant. Y flwyddyn nesaf yw’r flwyddyn olaf rwyf yn Arholwr Allanol yn Prifysgol Bangor, lle rydw I yn Arholwr Allanol ar gyfrer y Dystysgrif Olradd mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch.
Bydd rhai ohono chi yn Arholwyr Allanol profiadol, eraill yn Arholwyr Allanol am y tro cyntaf ond nid oes gen i amheuaeth y byddwch yn darganfod fod y Profiad yn un gwerth chweil. Mae bod yn Arholwr Allanol yn broses dwy ffordd, rydych chi wedi ei penodi I fod yn gymredolwr annibyniol, i helpu scicrhau ei safonnau academaidd yn unol a Chod Ansawdd yr Asiant Sicrhau Ansawdd ac yn hynny o beth rydych yn chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniadau academaidd y sefydliad sydd wedi eich penodi.
Sut bynnag rwy’n siwr y byddech chi hefyd yn darganfod fod bod yn Arholwr Allanol yn wneud i chi adfyfyrio ar y rhaglenni rydych chi yn gyfrifol amdanyn nhw yn eich sefydliad eich hun, efallai y gwnewch chi newidiadau I’ch rhaglenni yn sgil trafodaethau ag eraill s’n rhedeg rhaglenni tebyg.
Ar ol bod yn Arholwr Allanol mewn sawl man gallaf ddweud fod hon efaillai nid y rol mwyaf proffidriol o safbwynt ariannol oblegid oriau y gallu golygu ond bod y buddio yn enahanch yn llawer, llawer mwy euon ac arwyddoocad, yn dda iw rhoi ar CV ond yn bwysicach byth mae’n brofiod brofessiynol rhagoral ac un y byddwn yn ei gymeradwyo I eraill yn ddi-os.
Rwyf wedi mwynhau fy amser yn gweithio gyda chyfeillion ym Mangor ac wedi derbyn croeso mawr bob amser. Yn wir byddai’n gwelds isio fy ymweliadau blynyddol bob mis Tachwedd.
Byddai fy mhrif gyngor i unrhyw Arholwr Allanol newydd yn syml a sylfaenol iawn, mewn gwirionedd – gwnech yn siwr o’r cychwyn cyntaf eich bod chi yn addysgu cymaint a gallwch chi am y rhaglenni a’r modiwlau dan eich gofal. Sicrhewch hefyd fod gennych fynediad i’r modiwlau ar Blackboard os yw hynny’n bosib. Gofynwyd i chi fod yn Arholwr Allanol oherwydd eich arbenigedd yn maes y gymwyster neu gymwysterau dan ystyriaeth, ac efallai fyddwch yn gyfrifol am rhaglen debyg yn eich sefydliad adref ond bydd gwahaniaethau hefyd ag er y gall rhai ohonynt fod yn dda gallen fod yn allweddol. Bydd gwybodaeth ddofn o’ch rhaglen neu rhaglenni ym Mangor drwy llawlyfrau astudio rhaglen, mynediad i Blackboard, cyfathrebu a’r staff ynhyd a dealltwriaeth sylfaenol da o rheoliadau academaidd ym Mangor, y llawlyfr a Chod Ymddygiad diweddaraf i Arholwyr Allanol a phethau eraill yn ymwneud ag ansawdd o gymorth mawr i chi yn ystyried eich rôl. Yn bersonol teimlaf fod gwerthfawrogiad manwl o bob dim wedi fy helpu I gyflwyno sylwadaau di -duedd a gwrthrychol gobeithio ar waith y Myfyrwyr. Gallewch er enghraiff fod ar draws sefyllfa fel y gwnes I mewn sefydliad arall lle na dyw’r marciwr 1af a 2ail medru cytuno efallai ar marc terfynol. Mae dealltwriaeth dofn o’r rhaglenni ynb medru bod yn hanfodol os gofynnir I chi leiso’ch barn mewn sefyllfa fel hynny. Gan fod y rhalgn rydw i yn ymwneud a hi wedi neiwyd yn sylweddol yn ystod y pedair blwyddyn diwethaf mae’r ffaith bod gen i mynediad i’r modwilau ar-lein wedi fy nalluogi i gynnig awgrymiadau a synydiada mwy ystyrlon ar answadd a safod yn ddarpariaeth ar draws y flwyddyn wrth iddyn nhw datblygu rhaglen gwbl newydd.
Gwnech yn siwr hefyd o’r cychwyn cyntaf felly eich bod yn gwybod pwy I holi am wybodaeth benodol, bod yn rhywun o’r adran sicrhau ansawdd, swyddfa gyllid neu’r ddisgybliaeth ei hun wrth gwrs. Mae’r staff wedi bod yn gymwysgar iawn i mi yn y cyd-destun hwn, or; ddyddiau sesiwn rhagarweiniol cyntaff a’r gyfer Arholwyr Allanol newydd hyd heddiw. Cefais er enghraifft sawl gohebiaeth yn dilyn y newidiadau brys yn sgil Covid 19. Peidiwch a ofni holi am wybodeth penodol os ydych yn teimlo y byddai rhyw faint o wybodaeth ychwanegol yn eich cynorthwyo I ffurfio barn ar rhyw agwedd ar y darpariaeth. Mae Tȋm y rhaglen wedi bod o gymorth mawr I mi yn hyn o beth er enghraifft mewn perthynas a cheisiadau gen i am sgriptiau ychwanegol gan gynnwys mewn un achos sgript o blwyddyn blaenorol mew nachos ymgeisydd oedd yn ail sefyll agweddau o’r cwrs.
Mae’n bosib fod eich rhaglen yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfarfodydd gyda’r Myfyrwyr, efallai tra bod ar leoliad neu fel grŵp yn y Brifysgol. Rwyn teimlo lle bod ymweliadau ‘r fath yn ymarferol bosib eu bod yn defnydd da o’r amser yr Arholwr Allanol ac yn helpu sicrhau , unwaith eto, eich bod chi yn rhan o ddatblygiad y rhaglen trwy gydol y flwyddyn. Weithiau mae ymweliadau I;r fath yn helpu Arholwyr Allanoli ddeall pan mae elfen arbennig or rhaglen, er enghraifft, wedi ei llunio mewn ffordd arbennig neu ar y llaw arall yn cynorthwyo i ddeall pan mae Myfyrwyr yn teimlo bod aseniad benodol yn arbennig o heriol.
Yr un mor bwysig wrth i chi gychwyn ar eich rôl fel Arholwr Allanol yw darllen cyngor ac arweniad yr Asiant Sicrhau Ansawdd mewn perthynas ag arbenigaeth allanol,. Cyhoeddwyd y dogfen, sydd ar gael ar-lein yn 2018 ac mae’n amlinellu;r disgwydiadau ar aferion sy;n gysylltiadig a’r rôl Arholwr Allanol. Mae’n grynodeb da o’r rôl , o gymeradwyo aseniadau o’r ddechrau’r flwyddyn academaidd I gymydoli ac asesu ar ei diwedd hi. O rhan cymeradwo aseniadau ystyriwch yn ofalus yr amrywiaeth o dasgau gynigir yn hyd a’I priordolbeg o rhan lefel a pheidiwch ac ofni rhag awgrymu diwygiadau os ydych yn teimlo ei bod yn angen.
O rhan pen arall y broses blynyddol sef cymeradioli ac adolygu un o agweddau allweddol y rôl yw eich adroddiad blynyddol yn dilyn y Bwrdd Arholi. Dylai adroddadu wrth gwrs bod yn gytbwys ac yn deg gan gynnig awgrymiadau ar gyfer cryfhau a chyfoethogi’r darpariaeth pnd hefyd dathlu a chanmol arfer da. Meddyliwch amdanoch chi drwy gydaol y broses fel ffrind beirniadol. Gofynnir i chi rhoi adroddiad llawn llafar yn y Bwrdd Arholi fel rheol, a dwi wedi gweld hi’n ddefnyddiol iawn wrth baratoi ar gyfer byrddau I wneud nodiadau cynhwysfawr ar fyfyrwyr fy sampl a modiwlau uniogol wrth ymgyryd ar gwaith cymredoli. Er na bydde rhywun yn enwi myfryrwyr na staff penodol yn yr adroddiad ysgrifenedig, wrth rheswm, mae’n nodiadau hyn wedi rhoi sylfaen dda ar gyfer yr adroddiad ffurfiol. Mae’r cwestiynau ofynnir ar adroddiadau Arholwyr Allanol yn naturiol yn debyg iawn o safbwyn ansawdd o sefydliad i sefydliad. Wedi deud hynn, gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl ymwyobol o’r cwestiynau a geir ar ffurflen Bangor cyn I ddechrau cymrydoli sgriptiau. Rwyf di darfanfod fod ysgrifennu fy nodiadau cymredoli gyda’r rhain mewn golwg hefyd wedi fy helpu writh I mi ysgrifenny fy adroddiad blynyddol.
Mae gan Arholwyr Allanol Bangor fis i gwblhau ei adroddiad yn dilyn y bwrdd , ac fel y gwyddon ni oll mae’n werth ei gwenud yn fuan ar ôl y bwrdd tra bod trafodaethau ehanach y bwrdd hefyd yn dal yn y glir y pen.
Er y bydd template yr adroddiad yn ddigon clir a hunan eboniadaol mae yna cwestiynau pwysig y ddyliwch ofyn wrth e ich hunan wrth gymeradoli ac wrth lunio eich adroddiad; cwestiynaiu megis a yw’r lefel yr adobrth yn briodol ? a yw’r adborth yn berthnasol I’r marc neu radd a ddyfarnwyd ? a yw’r marciau yn gysgol ar draws y modiwlau? neu ar draws ieithoedd os yn chi’n cymredoli aseniadau yn y Gymraeg a Saesneg. A oes modd gwella elfennau o’r gwaith papur fel petai , a ddaperir I Myfyrwyr neu I chi fel Arholwr, ystyriwch hefyd dros rhaniad y marciau ar draws y spectrwm. Ystyriwch hefyd sut mae’r safonau yn cymharu a rhai mewn sefydliadau eraill. Yn olaf, awgrymedd eich bod yn edrych yn ofalus ar yr adroddiad terfynol a gyflwynwyd gan yr Arholwr Allanol blaenorol ar gyfer eich rhaglen gan bod hwn yn medru bod yn fan cychwyn defnyddiol.
Hoffwn ddymuno’n gorai I chi wrth i chi gychwn ar eich taith fel Arholwr Allanol ym Mangor. Fel y dywedais ar y dechrau gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Profiad ac yn elwa llawer o’r cyfle yn ogysgal a cynnig llawer o lwyddiant o’r darpariaeth.
Wrth i’m brofiad o Arholwr Allanol ym Mangor dod I ben edrychaf ymlaen at gadw mewn gysylltiad gyda’ cyd weithwyr dwi wedi dod I adnadbod dros y bedair blynedd diwethaf a pharhau yn ddeialog professiynol er bydd Myfyrwyr ym Mangor ac Trindod Dewi Sant.
Pob hwyl ar gyfer y 4 blwynedd nesaf a diolch am fod mor barod I ymgyryd rôl mor bwysig a hon.
Cyflwyniad i'r Brifysgol (cyflwyniad Powerpoint)
Swyddogaeth yr Arholwr Allanol (cyflwyniad Powerpoint)
Sut i lenwi eich ffurflen hawlio costau
Dogfennau
Bydd angen i arholwyr ymgyfarwyddo â Chodau Ymarfer a Rheoliadau perthnasol y Brifysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol.
- Cod Ymarfer i Arholwyr Allanol
- Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Hyfforddedig
- Rheoliadau Academaidd a Codau Ymarfer
Mae Ffurflenni Adroddiadau a Hawlio Costau ar gael i'w lawr lwytho hefyd