Cyfarfod â'r criw
- Cwestiynau cyflym gyda gweddill y tîm.
Calendr Campws Byw
- Llawrlwytho Calendr Campws Byw.
Criw Campws Byw - Omar
Hei bois, fy enw i yw Omar ac rydw i'n fyfyriwr Sŵoleg yn y 3ydd flwyddyn. Rwy'n mwynhau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored. Trwy gydol fy mlwyddyn gyntaf cymerais ran yn y cymdeithasau Tenis, Sboncen, Dringo a Chaiacio. Rwyf wrth fy modd yn y môr ac rwy'n blymiwr sgwba PADI.
Mae Bangor yn lle anhygoel a'r môr ar un ochr a'r mynydd ar yr ochr arall. Mae cymaint o lefydd hardd i'w harchwilio ac felly cofiwch ymuno â chymaint â phosib o glybiau a chymdeithasau!
Rwy'n berson cymdeithasol iawn, bob amser yn hapus i sgwrsio a rhoi help llaw, felly peidiwch â bod yn swil i ddweud helo. Mae tîm Campws Byw mewn crysau-t a hwdis oren llachar, rydym yn gwbl amlwg o amgylch y campws!